Mae’r band ‘pop positif’, Popeth, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n cynnwys llais cyfarwydd fel gwestai arbennig.
‘Acrobat’ ydy enw’r gân diweddaraf gan Popeth, sydd allan ers 20 Tachwedd ac sy’n cynnwys llais arbennig ac unigryw Leusa Rhys (o’r grŵp Serol Serol) yn canu ar y trac.
Popeth yw project cerddorol Ynyr Roberts, gyda phwyslais ar gydweithio i gynhyrchu pop Cymraeg i’r byd. Mae’n brosiect sy’n amlygu lleisiau arbennig, â’r caneuon hynny wedi eu cyfansoddi i lenwi’r gofod yn sin gerddoriaeth Gymraeg am bop disglair, positif a chyfoes.
Yn ffan o gerddoriaeth Scandi-pop a chynhyrchu cywrain a manwl, mae Ynyr wedi trwytho’r steil hwn yn ei gerddoriaeth ddiweddar gyda Popeth, ac mae wedi cael cryn dipyn o lwyddiant ers iddo ryddhau’r gân ‘Golau’ ym mis Gorffennaf 2022.
Cyfuniad perffaith
Daw Leusa yn wreiddiol o Ysbyty Ifan, Dyffryn Conwy, ond mae bellach yn byw yn Llundain. Mae wedi bod yn canu ers iddi fod yn ifanc iawn, mewn Eisteddfodau ledled Gymru a chyngherddau yn Nyffryn Conwy.
Daeth ei llais swynol i amlygrwydd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg yn 2018 fel rhan annatod o’r grŵp Serol Serol gyda Mali Siôn, Llŷr Parri a George Amor. Llais Leusa sydd hefyd i’w glywed ar y gân boblogaidd ‘Aros O Gwmpas’ gan Omaloma.
Wrth drafod y sengl newydd, dywed Leusa ei bod yn falch iawn o’r cyfle i gyd-weithio gyda Popeth pan ddaeth yr alwad gan Ynyr.
“Roeddwn i wedi clywed am Popeth a dwi wir yn mwynhau gwrando ar y caneuon” meddai Leusa.
“Pan gysylltodd Ynyr efo fi i holi os byswn i’n hoffi cydweithio efo fo ar y gân ‘Acrobat’, dim ond un ymateb oedd gen i… sef ‘ia, wrth gwrs!’.
“Dwi’n hoffi canu a chydweithio a dyma gyfuniad perffaith! Roedd yn grêt mynd nôl i stiwdio unwaith eto a bod yn rhan o rywbeth cyffrous.”
Mae ‘Acrobat’ allan ar y llwyfannau digidol arferol ar label Recordiau Côsh.