Mae’r band o Gaerdydd, Wigwam, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar Recordiau JigCal.
‘Billy’ ydy enw’r sengl newydd gan Wigwam ac mae’n dilyn cân ddiweddaraf y band ‘Problemau Pesimistaidd’, ddaeth allan fis Chwefror eleni.
Mae’n drac ysgafn a hwyliog sy’n adeiladu ar sŵn jangle-pop newydd y band.
Am y tro cyntaf, Griff Daniels, basydd y band, sy’n canu ar y trac ac mae’n adrodd geiriau sy’n myfyrio ar gyfeillgarwch ffrind, yn trio codi hwyliau Billy.
Wedi’i recordio gyda Mei Gwynedd yn stiwdio JigCal, mae’r gân wedi’i dylanwadu arni gan fandiau megis The Beths, Teenage Fanclub a Big Thief. Daw’r gwaith celf gan Beca Ellis.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Billy’ yn cael ei chwarae ar y radio gan Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.
Mae fideo ar gyfer y trac bellach wedi glanio hefyd – fideo sydd wedi’i gyfarwyddo gan brif leisydd arferol Wigwam, Gareth Scourfield.