Llanast Llanrwst 2023 penwythnos yma

Bydd Gŵyl Llanast Llanrwst yn cael ei chynnal yn nhref Llanrwst yn Nyffryn Conwy dros bebwythnos 1 – 3 Rhagfyr.

Bydd dipyn o gerddoriaeth fel rhan o’r ŵyl gyda chyfle i weld Candelas yn hedleinio gig yn y Clwb Llanrwst ar nos Wener 1 Rhagfyr i ddechrau’r penwythnos.

Bydd perfformiadau cerddorol mewn dau leoliad yn ystod y dydd ar y dydd Sadwrn gyda Meinir Gwilym yn Ngwesty’r Eryrod a Mynadd yn nhafarn Pen y Bryn.

Bydd perfformiadau mewn lleoliadau amrywiol yn dref gyda’r hwyr hefyd gyda Lastigband a Hap a Damwain yn nhafarn y New Inn, TewTewTennau ym Mhen y Bryn, ynghyd ag ymddangosiad gan Dafydd Iwan yn Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Bydd y penwythnos yn cloi gyda sesiynnau jamio mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y dref ar y dydd Sul. 

Gigs Llanast Llanrwst: 

Gwener 1 Rhagfyr, 19:00 – Candelas, Yr Anghysur (Clwb Llanrwst)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 15:00 – Meinir Gwilym (Gwesty’r Eryrod)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 16:00 – Mynadd (Pen y Bryn)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 17:00 – Lastigband (New Inn)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 17:00 – TewTewTennau (Pen y Bryn)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 18:00 – Hap a Damwain (New Inn)

Sadwrn 2 Rhagfyr, 19:00 – Dafydd Iwan, Garry Hughes (Clwb Rygbi Nant Conwy)

Sul 3 Rhagfyr, trwy’r dydd – Sesiwn Jamio (lleoliadau amrywiol)