Mae Lloyd Steele wedi rhyddhau ei ail sengl unigol.
‘Digon Da’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Daw’r sengl ddiweddaraf ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo ryddhau ei sengl unigol gyntaf, ‘Mwgwd’, ac mae’n debyg mai dyma’r gyntaf o ddwy sengl fydd allan ganddo cyn haf 2023.
Rhyddhawyd ‘Mwgwd’ yn Chwefror 2022 ac roedd croeso mawr i’r trac gan y cerddor sy’n gyfarwydd hefyd fel aelod o fand Y Reu, ac oedd cyn hynny’n aelod o fand Y Saethau.
Yn dilyn llwyddiant ‘Mwgwd’, penderfynodd Lloyd i ganolbwyntio ar ysgrifennu, recordio a chael ei hun yn barod ar gyfer plymio’n ddwfn i mewn i’r sin efo caneuon personol, dwys, sydd hefyd yn bop pur sy’n aros yn y cof.
Cynhyrchwyd ‘Digon Da’ gan Rich James Roberts, yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, a hynny’r un pryd a chân newydd sbon arall o’r enw ‘Tôn Gron’ fydd yn dod allan yn fuan ym mis Mehefin.
“Nes i sgwennu’r gân yma fel nodyn i fy hun am ba mor bwysig yw hunan werth, yn enwedig ar adegau lle dyw hyn ddim mor amlwg” meddai Lloyd.
“Adegau lle mae rhywun yn sdryglo mewn unrhyw agwedd o’u bywydau, mae’n bwysig cofio’u bod nhw’n ddigon beth bynnag, ac i drïo sbïo ar eu hunain drwy lygaid y rheini sy’n eu caru i sylweddoli hyn.”