Lo-Fi Jones a’r actores o’r Iseldiroedd…

Mae’r band gwerin o Fetws-y-coed, Lo-Fi Jones, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf. 

‘Fan Transit Coch’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect cerddorol y ddau frawd Liam a Siôn Rickard. 

Mae’r sengl allan yn ddigidol ar safle Bandcamp y band, ynghyd ag ar Soundcloud, ers dydd Gwener diwethaf, 6 Hydref. 

Mae’r gân wedi’i hysgogi gan stori, ac antur go iawn, fel yr eglura un o’r brodyr. 

“Wnaethon ni ddechrau creu’r gân ar roadtrip mewn fan transit coch nôl yn 2018” meddai Liam. 

“Cafodd y geiriau eu hysbrydoli gan hanes un o’n cymdeithion ar y daith, actores o’r Iseldiroedd. Mi oedd hi newydd dorri fyny a’i chariad, felly penderfynodd ddod gyda ni. Pobl ddiarth, ar daith 1160 milltir o Gent, Gwlad Belg, lawr i Porto, ac yn ôl.”

Daeth Lo-Fi Jones i amlygrwydd dros yr hydref llynedd wrth ryddhau eu sengl ‘Weithiau Mae’n Anodd’ ar ddechrau mis Tachwedd, cyn dilyn hynny gyda’r EP ‘Llanast yn y Llofft’ ar ddiwedd y mis hwnnw. 

Cerddoriaeth werin sydd wrth wraidd Lo-fi Jones, a chyn y pandemig, roedd Liam a Siôn yn teithio’n gyson, ar fws a thrên pryd bynnag yr oedd hynny’n bosibl, ac yn perfformio gyda cherddorion o bedwar ban byd. 

Stori am ddull arall o deithio sydd wedi ysbrydoli eu trac diweddaraf, ac er bod yr actores oedd yn gwmni iddynt yn ddieithryn ar y pryd, mae’n debyg ei bod dal mewn cysylltiad gyda’r brodyr hyd heddiw. 

 

Bydd cyfle i weld Lo-Fi Jones yn perfformio mewn ambell gig dros yr wythnosau nesaf: r

27 Hydref –  Clwb Cana (Canton Liberal Working Men’s Club), Caerdydd

11 Tachwedd – Llangywer, ger Bala 

17 Tachwedd – Saith Seren, Wrecsam