Mae’r band o Sir Gâr, Los Blancos, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lansio eu halbwm newydd mewn gig arbennig ddechrau mis Tachwedd.
Datgelwyd wythnos diwethaf mai ‘Llond Llaw’ fydd enw ail albwm Los Blancos a bydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Libertino ar 3 Tachwedd.
Bydd y band yn cynnal gig lansio yn lleoliad Cwrw yng Nghaerfyrddin ar y dyddiad lansio gyda chefnogaeth gan Water Pistol a Cyn Cwsg.
Mae’r band hefyd wedi rhyddhau sengl newydd i gynnig blas o’r record hir sef ‘Pancws Euros’. Mae tocynnau’r gig ar werth nawr.
Dyma ‘Pancws Euros’: