Mae Los Blancos wedi rhyddhau eu sengl newydd.
‘Ffuglen Wyddonol’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan y band o Sir Gâr sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Ar ôl haf llawn gwyliau a sioeau ledled Cymru, mae’r sengl newydd yn cynnig blas o’u hail albwm.
Mae ‘Ffuglen Wyddonol’ yn dod o hyd i’n harwyr garage, slacker pync mewn man myfyriol ond yn dal naws nodweddiadol y band yr un mor gryf ag erioed. Gyda’u canu ‘punky’ a’u hegni heintus, mae Los Blancos unwaith eto’n dal emosiwn gonest mewn trac sy’n ddim ond ychydig dros ddwy funud o hyd.
“Mae ‘Ffuglen Wyddonol’ yn gân a anwyd o werthfawrogiad dwfn o bop syrffio arfordir gorllewinol America” meddai’r band.
“Mae’n llythyr cariad at rywun agos ac annwyl iawn, yn ceisio eu codi o gwymp hunan-ddinistr gan ddefnyddio allfa greadigol. Yn seiliedig ar brofiad personol, mae grŵf fywiog y gân yn arf i gyflawni hyn.”
Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i ‘Christine’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni fel blas cyntaf o’r albwm newydd.