Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sy’n mynd a’r gantores i y gyfeiriad newydd gyda’i brand o bop amgen.
‘SHWSH!’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan yr artist o Gaerdydd ac y nod yn ôl Mali ydy creu cerddoriaeth gydag effaith na ellir ei anwybyddu, cyfuniad o guriadau electroinc cymhellol ac alawon atgofus.
Mae’n gobeithio darbwyllo ei chynulleidfa Cymraeg eu hiaith a’r di-Gymraeg bod yr iaith yn medru ffynnu mewn amgylcheddau cerddorol egni uchel y presennol.
Mae ‘SHWSH! yn ffrwydriad o bop grymusol sy’n annog ei wrandawyr i fod yn nhw eu hunain ym myd teledu realiti a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae yna empathi gyda sut mae’n rhaid i ni lywio ein hunaniaeth trwy gyngor parhaus y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi’u cynllunio i greu anfodlonrwydd. Mae’r pennill olaf yn dymuno y gallem fod yn rhydd i ganiatáu cariad i mewn i’n bywydau.
Y neges glir arall yn y geiriau yw bod eich hunaniaeth o ran rhywedd yn bersonol i chi, ni ddylai neb ddweud sut y dylech ei fynegi.
I gyd-fynd â’r sengl mae fideo sy’n darlunio Mali yn cael clyweliad am y rhan o chwarae “Dynes”.
Dyma’r sengl gyntaf yn arwain at EP fydd yn cael ei ryddhau yn yr Hydref. Mae’r deunydd newydd hwn yn gydweithrediad â’r cynhyrchydd Minas o Dde Cymru.