Mae Mei Emrys wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf syn, yn ôl y cerddor, ‘dathlu pob dim indie.
‘Allan o’r Suddo’ ydy enw’r trac newydd gan y canwr-gyfansoddwr profiadol o ardal Caernarfon ac mae’r teitl yn un sydd wedi’i fenthyg gan Paul Weller ar y trac ‘Out of The Sinking’.
Mae prif riff ‘Allan o’r Suddo’ hefyd yn adleisio un arall o fandiau amlycaf y 1980au, sef The Smiths ac yn benodol eu trac ‘How Soon is Now?’.
Roedd 2022 yn flwyddyn ddigon prysur i Mei Emrys wrth iddo ryddhau’r sengl ddwbl ‘Uwchben y Dŵr’ / ‘29’ ym mis Gorffennaf ac yna ‘Bore Sul (Yn Ei Thŷ Hi)’ ym mis Hydref. Mae’r sengl ddiweddaraf yn dipyn trymach o ran ei sain na’r tair cân hynny sydd wedi cael eu chwarae’n gyson ar BBC Radio Cymru a gorsafoedd eraill dros y misoedd diwethaf.
Wrth i gôr o gitars budur ei gyrru yn ei blaen, mae swagro hyderus ‘Allan O’r Suddo’ yn atgoffa’r gwrandäwr o rai o uchafbwyntiau Oasis a Kasabian, tra bod ffrwydradau achlysurol ar yr organ geg – sydd i’w clywed drwy gydol y gân – hefyd yn sicrhau bod elfennau o’r trac yn ymdebygu i roc amgen Americanaidd Black Rebel Motorcycle Club.
Fel traciau blaenorol Mei, Rich Roberts fu’n recordio a chynhyrchu ‘Allan O’r Suddo’ yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, ac yn ôl yr arfer bellach, Dion Jones (prif-leisydd Alffa) sydd wedi creu’r gwaith celf ar gyfer clawr y sengl.
Y tro hwn, mae Dion wedi addasu llun gwych y ffotograffydd poblogaidd Richard Jones (@lluniaurich) o ‘Morus yn y Clawdd’. Penderfynwyd defnyddio’r llun hwn fel teyrnged i’r Rolls-Royce mewn pwll nofio sy’n ymddangos ar flaen ‘Be Here Now’ gan Oasis (ac mae’r darlun hwnnw, ynddo ei hun, wedi ei seilio ar chwedl ynglŷn â doniau parcio echrydus Keith Moon, drymiwr gwyllt The Who.
Mae fideo wedi’i ryddhau i gyd-fynd â’r sengl hefyd, gyda Dafydd Owain (FfotoNant) yn gyfrifol am y cynhyrchu.