Mei Gwynedd yn rhoi tro ar ganeuon traddodiadol

Grêt i weld Mei Gwynedd yn yn ôl gyda’i sengl newydd, sy’n fersiwn newydd o gân draddodiadol Gymraeg gyfarwydd iawn. 

Bydd pawb wedi clywed a chanu ‘Titw Tomos Las’ sawl gwaith mae’n siŵr ac mae’r cerddor profiadol sydd wedi bod yn aelod o rai o grwpiau fwyaf blaengar y sin roc Gymraeg ers dechrau’r 90au, wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y glasur.

Ac mae’n ymddangos mai nid hon fydd yr olaf o fersiynau newydd o ganeuon traddodiadol gan ei fod yn bwriadu rhyddhau cyfres ohonynt yn ystod 2023

Sesiynau Tŷ Potas

Ers 2018, mae Mei wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol, gan ryddhau’r albwm ‘Glas’ yn 2018 ac yna ‘Y Gwir Yn  Erbyn Y Byd’ yn 2021. 

Bu’r cerddor a chynhyrchydd amryddawn hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi’r gân dorfol ‘Pethau Bychain’, ail-recordio a chynhyrchu fersiwn gyfoes o ‘Hei Mistar Urdd’, (a dorrodd record Guinness World Records yn 2023) yn ogystal â bod yn rhan o sawl prosiect cyfansoddi a chynhyrchu arall.

Nawr, mae Mei yn teimlo fod 2023 yn flwyddyn i adlewyrchu ar ei gerddoriaeth, a’r gerddoriaeth sydd wedi dylanwadu arno fel Cymro balch heddiw.

Canlyniad hyn yw ail-recordio detholiad o ganeuon poblogaidd a thraddodiadol Cymraeg, dan yr enw Sesiynau Tŷ Potas. 

Rhannu’r traddodiad

Dywed y cerddor fod y caneuon mae’n rhyddhau fel rhan o’r gyfres yn rai sydd dylanwadu’n fawr arno ef a llwyth o blant Cymru.

“Ges i’n magu’n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia’r Wyddfa, Mynediad Am Ddim, Dafydd Iwan heb sôn am yr ystod o ganeuon traddodiadol o’n i’n canu tra’n yr ysgol ac yn y capel pan o’n i’n ifanc” eglura Mei.  

“Wrth deithio Cymru fel band a chynnal gweithdai efo pobl ifanc, nes i weld a theimlo’r angen i gydnabod y caneuon hynny, a bod dyletswydd i rannu a chario ‘mlaen efo’r traddodiad o’u canu am flynyddoedd i ddod, i’n plant ac o genhedlaeth i genhedlaeth. 

“Nes i fynd ati i gyd-weithio efo ystod o gerddorion talentog ac ail-recordio detholiad o ganeuon efo’r bwriad o greu naws ‘eistedd mewn tafarn traddodiadol, byrlymus.’ A dyma felly gyflwyno’r cyfanwaith ’dan yr enw, ‘Sesiynau Tŷ Potas”! 

‘Titw Tomos Las’ ydy sengl gyntaf Mei Gwynedd oddi ar y casgliad newydd ac mae allan ar label Recordiau  JigCal rŵan.