Mae Mellt wedi ail-ryddhau sengl boblogaidd wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm newydd wythnos nesaf.
Rhyddhawyd ‘Marconi’ yn wreiddiol fel sengl ym mis Rhagfyr 2021 ar label Recordiau JigCal.
Erbyn hyn mae’r triawd indie-roc o Aberystwyth wedi ymuno â label Clwb Music ac yn paratoi i ryddhau eu hail albwm, ‘Dim Dwywaith’ ar y label hwnnw.
Mae ‘Marconi’ yn damaid bach olaf blasus i aros pryd nes rhyddhau’r albwm ar 27 Hydref. Mae’r band wedi ail-gymysgu fersiwn wreiddiol y gân ac ychwanegu ambell beth iddi medde nhw.
Dyma’r pedwerydd sengl iddynt ryddhau o’r albwm newydd gan ddilyn ‘Ceisio’, ‘Diwrnod Arall’ a ‘Byth Bythol’.
Mae ‘Marconi’ yn sengl indie-roc sydd wedi’i enwi ar ôl Guglielmo Marconi, dyfeisiwr y radio, a drawsyrrodd y signal radio cyntaf ar draws Môr Hafren i Larnog, Caerdydd. Wrth wraidd y gân, mae yna neges optimistaidd i’r bydysawd.
“Mae’r gân yn ystyried ein lle yn y bydysawd a llais Marconi yn teithio trwy’r gofod” eglura’r band.
Wrth ryddhau’r sengl mae Mellt hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ‘Marconi’ sydd wedi’i gynhyrchu gan Pypi Slysh Productions, ac sydd i’w weld ar-lein nawr.
Bydd Mellt yn mynd ar daith fis Tachwedd i ddathlu rhyddhau’r albwm gan berfformio mewn gigs yn Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Chaernarfon. Mae manylion llawn y gigs yma ar gelendr Y Selar a thocynnau ar eu cyfer ar werth nawr.
Dyma’r fid newydd: