Wrth ryddhau eu sengl ddiweddaraf, mae Mellt hefyd wedi cyhoeddi manylion eu hail albwm fydd allan yn yr hydref eleni.
Dim Dwywaith ydy enw record hir ddiweddaraf y band o Aberystwyth, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Clwb Music ar 27 Hydref.
Bydd ‘Dim Dwywaith’ yn ddilyniant i albwm cyntaf y triawd indi-roc o Aberystwyth, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc. Enillodd y record honno deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Fel blas o’r hyn sydd i ddod ar yr albwm, mae’r band wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ‘Diwrnod Arall’, sydd allan ers dydd Mercher 12 Gorffennaf.
Mae’r sengl, sydd llawn synau indi-roc adnabyddus y band, yn gweld Mellt yn myfyrio’n anobeithiol ar yr hyn mae datblygiadau technolegol wedi gwneud i ni.
“Does dim synnu bod e’n anodd anwybyddu / Y teclyn yn dy law sy’n gwrando ar ti nawr,” cana Glyn Rhys-James, prif leisydd y band.
“Mae’n swnio’n eithaf difrifol pan rydyn ni’n dweud [pethau fel ‘na], ond fi’n meddwl bod ‘na linellau doniol mewn ‘na hefyd, a phethau sy’n mynd â’r dwyster i ffwrdd,” meddai Glyn am y geiriau.
“Dydyn ni ddim yn esgus bod gennym ni’r holl atebion i’r holl broblemau rydyn ni’n siarad amdanyn nhw ond fi’n meddwl bod yna’r elfen yna o hiwmor sy’n dod ag e i lawr i’r ddaear ychydig yn fwy.”
Mellt ydy Glyn Rhys-James, Ellis Walker a Jacob Hodges. A hwythau wedi gorfod aros yn hir ers albwm cyntaf y band, heb os bydd eu ffans yn falch i gael awgrym o sŵn a theimlad yr albwm newydd.
Wrth i’r pandemig daro yn 2020, roedd y tri yn byw gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, yr amser perffaith felly i fynd ati i ysgrifennu a recordio. Ar ddiwedd 2022, aeth y tri yn ôl i’w gwreiddiau, i sied rhieni Glyn yn Aberystwyth, i orffen eu hail albwm hir ddisgwyliedig.
Dyma ‘Diwrnod Arall’: