Mellt yn ôl gyda sengl newydd

Mae’r triawd indie-roc o Aberystwyth, Mellt, yn ôl gyda sengl sy’n cynnig blas o’u halbwm nesaf. 

‘Byth Bythol’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos ganddynt ar label Clwb Music ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau eu hail albwm. 

‘Dim Dwywaith’ ydy enw albwm nesaf y band ac fe fydd yn glanio ar 27 Hydref. 

Mae’r record hir newydd yn ddilyniant i’w halbwm cyntaf, sef ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ a enillodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018. 

Mae ‘Byth Bythol’ yn ddilyniant i senglau eraill diweddar y band, ‘Ceisio’ a ryddhawyd ym mis Mai eleni a ‘Diwrnod Arall’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf.

Mae ‘Byth Bythol’ yn drac hwyliog ond yn ddarlun gonest o’r straen a’r ansicrwydd ddaw o dyfu’n oedolyn ifanc. Mae’n cael ei adlewyrchu’n berffaith yng ngeiriau’r gitarydd a’r prif leisydd Glyn Rhys-James wrth iddo ildio’n dawel: “Achos ambell waith ni’n amherffaith / Ond be’ bynnag, mae’n byth bythol.”

“Mae ‘Byth Bythol’ am yr hyn ni methu rheoli” eglura’r band.

“Mae yna elfen o ddiogi i’r gân hon gan fod y gân yn dadlau bod dim pwynt mynd i’r drafferth o drio trwsio’r pethau ni methu rheoli, alle’n ni dreulio am byth yn edrych am yr atebion cywir.” 

Yn ogystal â’r newyddion am eu sengl newydd, mae’r band hefyd wedi cyhoeddi manylion taith i hyrwyddo’r albwm newydd.

Dyddiadau taith hyrwyddo ‘Dim Dwywaith’:

10/11/23 – Bunkhouse, Abertawe 

11/11/23 – Cwrw, Caerfyrddin 

17/11/23 – Cŵps, Aberystwyth

18/11/23 – Le Pub, Casnewydd 

24/11/23 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd 

02/12/23 – Galeri, Caernarfon 

Mae ’na hefyd fideo i gyd-fynd â’r sengl sydd wedi’i greu gan neb llai na drymiwr Mellt, Jacob Hodges: