Mae’r band a ddaw yn wreddiol o Aberystwyth, Mellt, rhyddhau eu sengl newydd
‘Ceisio’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd sydd allan ers 3 Mai ar label Clwb Music.
Mae wedi bod yn gyfnod gweddol dawel i Mellt o ran cynnyrch newydd – rhyddhawyd eu sengl ddiwethaf, ‘Marconi’, yn Rhagfyr 2021.
Maent hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd i gydfynd â’r sengl sydd wedi’i greu gan Pypi Slysh Productions.