Morgan Elwy a’i deyrnged i Lansannan

Mae’r cerddor o Uwch Aled, Morgan Elwy, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sy’n deyrged i’w bentref lleol, Llansannan.

‘Supersonic Llansannan’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar y llwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener 23 Mehefin. 

Yn ôl Morgan, mae ‘Supersonic Llansannan’ yn disgrifio bywyd pob dydd trigolion Llan sy’n cael llawenydd a chysur wrth dreulio amser yn y dafarn a chefnogi tîm pêl-droed y pentref ar ôl diwrnod caled hir yn gweithio ar y tir. 

Dywed fod y trac yn anthem hwylus i bobl pentref bach gwledig Llansannan. 

Mae fideo cerddoriaeth yn serenu yr actor Simon Holland Roberts i gyd-fynd â’r sengl ac mae hwn i’w weld ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Mae Roberts wedi bod ar gast llwyth o gynhrychiadau theatr, ynghyd ag ymddangos ar gyfresi teledu amlwg fel Coronation Street, Hollyoaks a Shameless.