Mae Morgan Elwy yn rhyddhau ei sengl unigol ddiweddaraf sy’n trafod ei fywyd prysur wrth gigio dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.
‘Gyrru ar y Ffordd’ ydy enw’r gân reggae-roc newydd sydd allan ar label Recordiau Bryn Rock.
Ag yntau’n un o artistiaid prysura’ Cymru dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, gan gigio’n gyson, mae testun y gân yn un sy’n adlewyrchu hynny gan drafod bywyd ar y ffordd yn teithio’r wlad yn canu a pherfformio.
Mae’r geiriau’n rai gonest am wefrau a heriau gyrfa fel perfformiwr wedi’u cyfeilio gan gitâr Morgan, Gruff Roberts ar y drums, Mared Williams ar yr allweddellau a Mali Elwy yn canu llais cefndir.
Mae caneuon Morgan Elwy yn gymysgedd o reggae, gwerin a roc Cymraeg wedi’u gwreiddio’n ddwfn ym mryniau glawog Mynydd Hiraethog, Gogledd Cymru.
Ers rhyddhau ei albwm gyntaf, ‘Teimlo’r Awen’ ac ennill Cân i Gymru yn 2021 mae Morgan Elwy a’i fand yn dod â rhythmau reggae pyncaidd, alawon cofiadwy a harmonïau iachusol i’r llwyfan.
Bydd fideo’n cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r sengl newydd yn fuan – cadwch olwg ar sianel YouTube Bryn Rock am hwn.