Moss Carpet yn rhyddhau EP ‘Galwad y Cewri’

Ar ôl cipio teitl enillydd Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf, mae Moss Carpet wedi rhyddhau EP newydd ar label INOIS. 

Mae’r artist a’r cynhyrchydd o Ddyffryn Nantlle, Moss Carpet, yn creu cerddoriaeth sy’n “ffrwydrad rhwng gwerin a seicedelig” ac yn mwynhau arbrofi gyda gwahanol genres.

Enw ei EP newydd ydy ‘Galwad y Cewri’ ac mae allan ers dydd Gwener 18 Awst. 

Prosiect cerddorol y cerddor 23 oed, Osian Jones, ydy Moss Carpet a llwyddodd i greu argraff ar feirniaid cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar ddydd Mercher yr Eisteddfod ym Moduan, gan ddod i’r brig yn erbyn tri artist arall sef Beth Pugh, Alis Glyn a’r band Tewtewtennau. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys James o’r band Mellt, Marged Sion sy’n aelod o’r band Self Esteem, Marged Gwenllian o Y Cledrau a Ciwb, a Sion Land, sef drymiwr y band Alffa. 

Nid dyma gynnyrch cyntaf Moss Carpet – bu iddo ryddhau ei albwm,  ‘The Sound of the Tree by the River at Night’ yn annibynnol yn 2021.

Bu iddo hefyd ryddhau’r trac 0-0-0 ym mis Chwefror eleni ac mae’r cerddor wedi bod yn datblygu ei sain a’i set fyw. Mae’r synau newydd yn cael eu hamlygu ar yr EP ‘Galwad Y Cewri’, sy’n cynnwys traciau meddal a myfyriol. 

Yn defnyddio AI ar gyfer ei gelf weledol, mae Moss Carpet hefyd yn defnyddio’r dechnoleg i’w ysbrydoli’n gerddorol. 

Llwyddodd i greu digon o argraff ar feirniaid Brwydr y Bandiau i’w goroni’n enillydd 2023, ac fel rhan o’r wobr aeth ymlaen i agor Maes B ar nos Sadwrn 12 Awst.