Mr Phormula a Martyn Kinnear yn cydweithio

Martyn Kinnear ydy partner cerddorol diweddaraf y rapiwr, bitbocsiwr a chynhyrchydd gweithgar, Mr Phormula. 

Mae Mr Phormula wedi amlygu ei hun fel rapiwr mwyaf blaengar a chynhyrchiol Cymru dros y chwarter canrif diwethaf, ond mae hefyd yn gyfarwydd am ei barodrwydd i gyd-weithio gyda cherddorion eraill o Gymru a thu hwnt. 

Y tro hwn mae Mr Phormula, sef Ed Holden, wedi penderfynu cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd a cherddor dubstep Martyn Kinnear. 

Sengl ddwbl dan yr enw ‘Lawr Fel Hyn’ ydy ffrwyth llafur partneriaeth y ddau, a bydd yn cael ei ryddhau ar 29 Medi. 

Yn ôl Kinnear, mae’r trac yn un ‘bassline egnïol’, ac yn gweld y ddeuawd yn arloesi gyda’r math yma o gerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fersiwn, ac ail-gymysgiad, dubstep o’r gân ydy ail drac y sengl ddwbl. Mae’r ddwy fersiwn wedi’u cynhyrchu gan Kinnear.  

Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyd-weithio gan bod Martyn Kinnear wedi ail-gymysgu’r trac ‘We Know’ gan Mr Phormula nôl yn 2021.