Mr Phormula yn cydweithio gydag aelod Jurassic 5

Mae Mr Phormula wedi mynd ati i gyd-weithio unwaith eto gyda rapiwr amlwg o’r Unol Daleithiau – y tro ,hwn neb llai na Akil the MC o’r grŵp rap byd-enwog Jurassic 5.

Wedi’i gymryd oddi ar ei albwm newydd sydd ar y gweill, mae ‘Global Reactor’ yn siŵr o osod unrhyw system sain ar dân gyda’i rhythmau pwerus a’i llinellau bas tynn.

Mae’r sin hip-hop Gymraeg yn parhau i dyfu o hyd, gyda Mr Phormula yn uno a chysylltu artistiaid o wahanol rannau’r byd, gyda’i arddull ddwyieithog deinamig yn denu cefnogwyr o Gymru, America a thu hwnt.

Mae’r sengl allan ar Recordiau Mr Phormula ers dydd Gwener 2 Mehefin.