Mae Mr, sef prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff a Catatonia, wedi rhyddhau albwm newydd dan yr enw ‘Misses’.
Dyma’r bumed record hir Mr gan ddilyn pedwar albwm mewn pedair blynedd rhwng 2018 a 2021 sef Oesoedd (2018), Amen(2019), Feiral (2020) a ‘Llwyth’ yn 2021.
Gyda rhain i gyd yn cael eu rhyddhau o gwmpas yr un dyddiad ym mis Hydref pob blwyddyn dan sylw, roedd ychydig mwy o oedi nes y record hir ddiweddaraf, ond nid gormod a bydd ffans pybyr Mr yn falch iawn o hynny.
Mae’r albwm diweddaraf ar gael ar ffurf digidol ac ar CD ac mae modd archebu ar safle Bandcamp Mr.
Tri ar ddeg o draciau fydd ar yr albwm newydd ac mae aelodau band arferol Mr i gyd wedi cyfrannu at y gwaith recordio sef Paul Jones, Owen Powell, Osian Gwynedd a Steve Jenkins.
Bydd Mr yn gigio dros yr haf gyda’i enw eisoes wedi ymddangos ar lein-yp rhai o wyliau’r haf gan gynnwys Gŵyl Tawe, Abertawe ar 10 Mehefin a Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog ar 8 Gorffennaf.
Bu i Mr ryddhau sengl fel tamaid i aros pryd ychydig cyn i’r albwm llawn lanio, sef ‘Dwi Ddim yn Nabod Chdi Ddim Mwy’: