Mynadd yn ymuno ag I KA CHING 

Mae’r band ifanc o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label Recordiau I KA CHING. 

‘Llwybrau’ ydy enw’r trac sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 27 Hydref.

Mae’n debygol fod sawl un wedi sylwi ar enw newydd ar restrau gigs yn ystod y flwyddyn a fu, a bod Mynadd yn prysur wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth. Maent wedi perfformio yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Maldwyn, Gŵyl Triban, ‘Steddfod Genedlaethol, Gig Cymdeithas yr Iaith, Gŵyl Llanuwchllyn, Oakley, Tafarn y Plu ond i enwi rhai!

Wedi ffurfio yn 2022, ‘Llwybrau’ yw’r gân gyntaf i Mynadd gyd-gyfansoddi ac mae’n ffefryn pendant iddynt. 

Gyda’r holl aelodau rhwng 16 ac 19 oed, mae themâu ‘Llwybrau’ yn berthnasol iawn i’w bywydau ar hyn o bryd wrth iddynt bwyso a mesur dewisiadau addysg, gyrfa a chwaneg o benderfyniadau sgeri bywyd.

Dylanwadau cerddorol ‘uniongyrchol’ y band yw artistiaid fel Billy Joel ac arddull lleisiol cantorion Cymraeg cyfoes fel Alys Williams a Mared Williams. ‘Sdim dwywaith chwaith fod dylanwad cerddorion yn eu bro e.e. Y Cledrau, Candelas a Blodau Papur, wedi bod yn aruthrol ar Mynadd wrth ffurfio, perfformio a hefyd wrth gyfansoddi.

Aeth Mynadd at y cynhyrchwyr Carwyn Williams ac Ifan Emlyn Jones i Stiwdio Sain i recordio’r sengl hon, a bydd rhagor i’w glywed ganddynt yn fuan. 

Aelodau Mynadd ydy Elain Rhys (prif leisydd), Math Thomas (gitâr), Gruffudd ab Owain (piano), Nel Thomas (bas) a Cadog Edwards (drymiau).

Dyluniwyd y clawr ar gyfer y sengl gan Llio Iorwerth, chwaer 12 oed y prif leisydd. Mae’n dangos map o’r Aran ym Mhenllyn ac yn amlwg yn dangos amlinelliad y llwybrau.

Mae’r band wedi creu fideo ar gyfer ‘Llwybrau’ i gyd-fynd â’r sengl ac mae modd gweld hwn ar y cyfryngau cymdeithasol.