Bydd cynllun newydd rhwng prosiect cerddorol NAWR, Menter Iaith Abertawe, a Tŷ Tawe, yn gweld y sefydliadau yn cydweithio ar gyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth arbrofol, gan gynnwys artistiaid yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol.
Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a’r Gelli Gandryll yn cynnwys cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin, a cherddoriaeth newydd.
Nod gwaith NAWR ydy cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar ac agos.
Mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran i fwynhau a defnyddio’r Gymraeg yn yr ardal. Mae’r sefydliad wedi ei leoli yng nghanolfan Gymraeg Abertawe, Tŷ Tawe, sy’n cynnwys neuadd ddigwyddiadau hyblyg gyda lle i hyd at 80 o bobl yng nghanol y ddinas.
Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus ym mis Tachwedd 2022 gyda Pat Morgan o’r band Datblygu a’r cynhyrchydd electronig newydd o Fachynlleth, Sachasom, bydd y sefydliadau’n cyd-weithio eto ar ddigwyddiad ar nos Fercher 12 Ebrill 2023.
Bydd y noson yn Nhŷ Tawe yn cynnwys set gan yr arbrofwyr hip-hop o Baltimore, Infinity Knives & Brian Ennals. Mae’r ddeuawd yn cynnig Ice Cube a Boogie Down Productions KRS-One fel dylanwadau sy’n amlygu eu hedmygedd o hip-hop clasurol, ond mae’r gerddoriaeth hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at artistiaid amrywiol megis Pink Floyd, Stars Of The Lid, William Basinski, Sade, Outkast ac Aretha Franklin ymysg eraill.
Yn cefnogi Infinity Knives & Brian Ennals bydd Hap a Damwain. Band roc gyda dylanwadau dub ac electronic, cafodd Hap a Damwain eu ffurfio ym Mae Colwyn yn 2019. Yn cynnwys Hap (Simon Beech, cerddoriaeth/peiriannau) a Damwain (Aled Roberts, llais/geiriau), mae’r band newydd ryddhau eu hail albwm ‘Ni Neu Nhw’ trwy eu tudalen Bandcamp.
Mae tocynnau ar gael am £10 o flaen llaw, a hynny trwy Eventbrite.