Pedair yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Y siwpyr-grŵp gwerin Pedair sydd wedi ennill teitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol. 

‘Mae ‘Na Ola’ ydy enw record hir y grŵp a ryddhawyd ar label Sain yng Ngorffennaf 2022. 

Pedair ydy prosiect diweddaraf criw o gerddorion profiadol sy’n cynnwys rhai o leisiau amlycaf canu gwerin Cymru – Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym.

Gan blethu agweddau nodweddiadol ar eu harddulliau unigol, maent eisoes datblygu i ddod yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Ar eu halbwm cyntaf, ‘Mae ‘Na Olau’, mae harmonïau tyner yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd gwerin gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol.

Mae’n debyg mai gobaith yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein hatgoffa trwy eu caneuon cynnil fod harddwch i’w ganfod ym mhob cornel o’n byd.

Mae aelodau Pedair wedi cael wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol, Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl  ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.

Ers hynny maent wedi ymddangos mewn gwahanol bafiliynau a llwyfannau ledled y Maes, naill ai gyda’i gilydd neu’n unigol.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni ym mhrif Bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ar ddydd Gwener 11 Awst, gyda’r grŵp yn derbyn tlws a gomisiynwyd yn arbennig.

Mae’r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Enwebwyd naw band ac artist ar gyfer y wobr eleni gyda phanel o feirniaid yn dewis yr enillydd. Y panel eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.

Rhestr fer lawn gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023:

  • Adwaith – Bato Mato
  • Sŵnami – Sŵnamii
  • Pedair – Mae ’na Olau
  • Rogue Jones – Dos Bebes
  • Cerys Hafana – Edyf
  • Fleur de Lys – Fory ar ôl Heddiw
  • Kizzy Crawford – Cariad y Tir
  • Dafydd Owain – Uwch Dros y Pysgod
  • Avanc – YN FYW (Live)