Ifan Davies o’r band Sŵnami ydy’r diweddaraf i fod yn ganolbwynt i raglen gerddoriaeth S4C Curadur.
Darlledwyd y bennod ddiweddaraf o’r gyfres ar drothwy’r Nadolig, ond bellach mae modd gwylio rhai o’r uchafbwyntiau ar sianel YouTube Lŵp, yn ogystal â gwylio ar alw ar Clic, S4C am gyfnod byr.
Mae band gwreiddiol Ifan, Sŵnami, yn perfformio eu sengl ‘Paradis Disparu’ fel rhan o’r bennod ac mae Ifan hefyd yn ffurfio supergroup arbennig gyda’r gantores Alys Williams a’r cynhyrchydd Rich Roberts i berfformio’r trac ‘SlowPlay’.
Y gwesteion cerddorol eraill sy’n perfformio ar y bennod ydy Malan a Sywel Nyw.
Yn ogystal â bod yn ffryntman y grŵp Sŵnami, mae Ifan yn aelod o fandiau Yws Gwynedd ac Yr Eira, a hefyd yn gyflwynydd radio.