Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyhoeddi manylion prosiect newydd mewn partneriaeth â Trac Cymru i ddathlu treftadaeth cerddoriaeth werin yn ardal Abertawe.
Bydd sesiynau misol newydd i blant a phobl ifanc 16 a iau yn dechrau ar safle Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas ym mis Medi gyda’r bwriad o drosglwyddo’r traddodiad gwerin i’r genhedlaeth nesaf.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar ail brynhawn Sul pob mis ac yn cael eu harwain gan gerddorion gwerin amlwg sy’n cynnwys Angharad Jenkins a Rhodri Davies.
Gall y rhai sy’n mynychu ddod â’u hofferynnau i ddysgu a chwarae alawon gwerin Cymreig mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol. Cynhelir y sesiwn gyntaf ar ddydd Sul 10 Medi rhwng 14:00 a 16:00. Mae croeso cynnes i bawb a bydd nifer cyfyngedig o offerynnau ar gael i’w benthyg ar y safle.
“Dwi mor falch bod Menter Abertawe yn cychwyn ar y sesiynau gwerin yma i blant” meddai Angharad Jenkins.
“Doedd dim byd fel hyn ar gael pan o’n i’n tyfu lan. Daeth fy niddordeb i mewn cerddoriaeth gwerin gan fy rhieni.
“Trwy’r gweithdai hyn, gallwn sicrhau bod y cyfle i ddysgu, cyd-chwarae a mwynhau mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol yn agored i unrhyw un. A thrwy hynny, bydd y genhedlaeth nesaf yn dysgu’r alawon sy’n cymaint rhan o’n treftadaeth a’n diwylliant gwerin.”
Mae’r sesiynau hyn yn cyd-fynd ag arlwy gyfoethog o gerddoriaeth gwerin sydd ar y gweill gan y Fenter Iaith.
Bydd y sesiynau newydd i blant a phobl ifanc yn rhedeg ochr yn ochr gyda’r sesiwn werin reolaidd sy’n cael ei chynnal ar ail nos Wener pob mis yn yr un lleoliad. Mae’r sesiynau yma’n digwydd yn ardal bar Tŷ Tawe rhwng 19:00 ac 23:00 ac yn addas ar gyfer pobl sy’n 16 ac yn hŷn. Mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau yma, a bydd cerddorion gwadd yn ymuno yn ystod y flwyddyn.
O ganlyniad i bartneriaeth ehangach rhwng Menter Iaith Abertawe a Trac Cymru bydd nifer o ddigwyddiadau amgen ar draws yr ardal dros y misoedd nesaf, gan gynnwys y digwyddiad Sadwrn Acwstig tu allan i dafarn y Railway yng Nghilâ ar ddydd Sadwrn y 9 Medi.
Yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus blaenorol ar y safle, bydd y prynhawn yma o gerddoriaeth acwstig yn agored i bob oedran ac yn rhad ac am ddim i fynychu. Bydd y prynhawn yn cynnwys setiau gan nifer o artistiaid y sîn werin gyfoes gan gynnwys Bwca, Catrin O’Neill, Gwilym Bowen Rhys, Melda Lois, a Plu.
Bydd yna hefyd sesiwn werin ychwanegol ar safle Tŷ Tawe ar nos Sadwrn y 23 Medi i ddathlu’r Diwrnod Gwerin Ewrop cyntaf. Mae Diwrnod Gwerin Ewrop yn brosiect newydd wedi ei sefydlu a chydlynu gan Rhwydwaith Gwerin Ewrop (EFN) a chaiff ei gynnal ar ddiwrnod y gyhydnos hydrefol yn hemisffer y gogledd. Mae’r diwrnod wedi ei greu gyda’r bwriad o’i sefydlu fel diwrnod allweddol yn y calendrau blynyddol, a bydd y digwyddiad yn Abertawe yn cynnwys cerddorion gwadd.
Hefyd, gan ychwanegu at arlwy gwerin mis Medi yn Abertawe, ar nos Sadwrn 30 Medi, bydd Tecwyn Ifan yn ymweld â’r brif neuadd ddigwyddiadau yn Nhŷ Tawe. Bydd Dafydd Owain a Lily Beau yn cefnogi ar y noson.