Gig: Mari Mathias, Elli Glyn – Mission Gallery, Abertawe – 03/03/23
Rydan ni’n mentro i Abertawe ar gyfer ein gig wythnos yma, ac i leoliad Mission Gallery sy’n dod yn fwyfwy amlwg fel lleoliad gigs.
Mari Mathias sy’n perfformio yno heno gyda chefnogaeth gan enw newydd i’r Selar, Elli Glyn. Gwerth taro draw am gip os ydach chi o fewn cyrraedd.
Cân: ‘Gan Gwaith’ – Dafydd Owain
Mae ail sengl unigol Dafydd Owain, Gan Gwaith, allan ar label I KA CHING penwythnos yma.
Daw’r sengl newydd yn dynn ar sodlau ei sengl gyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’, ar ddiwedd mis Ionawr ac mae’n flas pellach o’r hyn sydd i ddod ar albwm cyntaf Dafydd Owain sy’n cael ei ryddhau ym mis Mai eleni.
“Stori a chân serch ydi ‘Gan Gwaith’”, meddai Dafydd.
Artist: Cari Hedd
Enw newydd arall i’r Selar ydy ein dewis o artist wythnos yma sef t gantores ifanc o Sir Fôn, Cari Hedd.
Mae sengl gyntaf Cari, ‘Mae’r Amser Di Dod’, allan ers wythnos ar label Recordiau Gonk, sef label y cerddor profiadol Geth Tomos. Geth hefyd sydd wedi ysgrifennu’r trac ar y cyd a Geth Robyns.
Mae enw cyfarwydd arall hefyd wedi bod yn gyfrifol am waith cynhyrchu, cyfansoddi a threfniant y sengl sef Henry Priestman, cyn aelod y band llwyddiannus The Christians.
A hithau’n newydd i’r diwydiant, mae Cari’n amlwg yn falch o gael y cerddorion profiadol yn gefn iddi.
“Mae gweithio efo Geth a Henry wedi bod yn bleser, ac yn brofiad sbeshial cael gwireddu fy uchelgais o gael rhyddhau sengl” meddai Cari.
Record: Week of Pines – Georgia Ruth
Yn rhyfeddol, mae deng mlynedd wedi pasio ers rhyddhau albwm cyntaf Georgia Ruth ac er mwyn nodi’r achlysur mae Week of Pines wedi’i ail-ryddhau wythnos yma, gan gynnwys fersiwn ar ffurf feinyl.
Rhyddhawyd Week of Pines yn wreiddiol yn 2013 ar label Gwymon, oedd yn un o is-labeli Recordiau Sain ar y pryd, ond mae’r fersiwn newydd allan ar label Bubblewrap sy’n adnabyddus am gyhoeddi recordiau feinyl prydferth.
Cafodd yr albwm ymateb anhygoel yn 2013 gydag adolygiadau ffafriol gan gynnwys yn The Guardian ac y Wales Arts Review.
Yn arwyddocaol iawn ar y pryd, Week of Pines hefyd oedd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 – dim ond y trydydd enillydd o’r wobr ar ôl Hotel Shampoo gan Gruff Rhys yn 2011 a The Plot Against Common Sense gan Future of the Left yn 2012.
Roedd llwyth o sylw i’r record ar draul hyn gan fynd â’r albwm, ac enw Georgia, at gynulleidfa ehangach a’i selio fel enw gwirioneddol gyffrous i gadw golwg arni.
Recordiwyd a chynhyrchwyd yr albwm gan David Wrench yn ei stiwdio Bryn Derwen yn Eryri dros chwe diwrnod ym mis Awst 2012. Roedd y tri brawd Aled, Iwan a Dafydd o Gowbois Rhos Botwnnog yn y band wrth recordio’r albwm, ac mae cyfraniad hefyd gan Llewen Steffan.
Mae’r record yma’n gampwaith.
Dyma un o’r traciau, Hallt gyda Georgia ac Iwan yn ei pherfformio ar gyfer rhaglen gelf S4C tua naw mlynedd yn ôl, Pethe:
Un Peth Arall: Lansio Llyfr ffotograffiaeth Rhys Grail
Wythnos diwethaf roedd lansiad cyfrol newydd sy’n dogfennu dwy flynedd o fywyd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg mewn ffotograffiaeth.
‘Circa 21/22’ ydy enw llyfr cyntaf y ffotograffydd a cherddor Rhys Grail – bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â Rhys mae’n siŵr fel aelod o’r band Gwilym.
Mae’r llyfr yn cynnwys lluniau o fandiau ac artistiaid Cymreig wedi eu tynnu’n ystod 2021 ac 2022 ac roedd lansiad arbennig wythnos diwethaf yng nghaffi Braf, Dinas Dinlle gyda’r bandiau Alffa, Y Cledrau a skylrk. yn perfformio.
“Fel cerddor fy hun rydw i wedi cael y braint o neud ffrindiau gyda llawer o fandiau Cymraeg gwych yn ystod fy amser yn chwarae gyda’r band Gwilym” meddai Rhys Grail.
“Y llyfr hwn ydi fy ffordd i o dalu gwrogaeth i’r perthnasau yma dwi wedi’u creu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â dogfennu a dathlu yr isddiwylliant cyfoethog sydd gan y sin gerddoriaeth Gymraeg i’w gynnig.
Roedd Y Selar yn falch iawn i gefnogi’r digwyddiad, ac rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr i bori trwy’r gyfrol – gallwch rag archebu copi ar wefan Rhys nawr.