Gig: Gŵyl Tawe – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – 10/06/23
Dewis strêt rhwng dwy ŵyl penwythnos yma – un yn y gogledd ac un yn y de.
Os ydach chi yn y gogs, beth am daro draw i Fôn ac i Langefni ar gyfer Gŵyl Cefni? Mae cerddoriaeth fyw trwy’r dydd ym Maes Parcio Neuadd y Dref gydag artistiaid sy’n cynnwys Yws Gwynedd, Bwncath, Ffatri Jam, Meinir Gwilym, Monswn, Leri Ann, Tesni Hughes ac Achlysurol.
Yr opsiwn amgen i chi yn y de ydy Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sydd ger y bae yn Abertawe. Mae cerddoriaeth fyw rhwng 10:00 a 19:00 gan artistiaid sy’n cynnwys Adwaith, Ani Glass, Hyll, Sage Todz, Los Blancos, Lloyd x Dom + Don, Mr, She’s Got Spies, SYBS a The Gentle Good.
Cân: ‘Hotel’ – Gwcci
Doedd dim rhaid i ni edrych yn bell am ein dewis o drac yr wythnos yma.
Rydan ni wrth ein bodd efo hip-hop, ac rydan ni wrth ein bodd â’r prosiect dirgel Gwcci!
Wrth reswm, roedden ni’n hapus iawn i weld eu sengl ddiweddaraf yn glanio wythnos diwethaf felly!
Dyma ‘Hotel’:
Artist: Tad
Mae Tad yn enw newydd, ac efallai’n ddewis rhyfedd ar gyfer ein ‘artist’ wythnos yma gan nad ydan ni’n gallu dweud rhyw lawer amdano!
Artist dirgel ydy Tadn (lot o rheiny o gwmpas does!) sydd wedi ymddangos gyda sengl gyntaf ar label Recordiau I KA CHING.
‘Tai Haf’ ydy enw’r trac cyntaf i lanio Tad ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mehefin.
Yn ôl I KA CHING, mae Tad yn gyfansoddwr Cymreig, sy’n darlledu negeseuon gwleidyddol a synhwyrau pop o’i byncer niwclear dwfn yn y Cymoedd.
Mae ‘Tai Haf’ yn olwg hiraethus ar ei blentyndod yng nghefn gwlad Cymru.
Gydag offerynnau lliwgar a synau symudliw, mae’n gobeithio gallu’n cludo ni’n ôl i amser symlach, pan oedd problemau cymhleth yn galw am atebion syml.
Er nad ydan ni’n gwybod pwy ydy Tad, mae’n amlwg yn gerddor dawnus…ac mae ’na rywbeth am sŵn y sengl gyntaf yma sy’n ein hatgoffa ni rywfaint o fandiau ifanc Sir Gâr/Sir Benfro o rai blynyddoedd yn ôl. Ond efallai mai ni sy’n dychmygu hynny!
Record: Misses – Mr
Ydy, mae un o gerddorion pwysicaf ei genhedlaeth, os nad hanes cerddoriaeth Gymraeg, Mark Roberts yn ôl gydag albwm diweddaraf Mr.
Mr ydy prosiect cerddorol diweddaraf y cyn aelod amlwg o’r Cyrff, Y Ffyrc a Catatonia, a Misses ydy ei record hir newydd.
Dyma’r bumed record hir Mr gan ddilyn pedwar albwm mewn pedair blynedd rhwng 2018 a 2021 sef Oesoedd (2018), Amen(2019), Feiral (2020) a ‘Llwyth’ yn 2021.
Mae’r albwm diweddaraf ar gael ar ffurf digidol ac ar CD ac mae modd archebu ar safle Bandcamp Mr.
Unwaith eto mae Mark wedi recriwtio ei fand talentog ar gyfer y gwaith recordio gyda chyfraniadau gan ei gyfaill bore oes Paul Jones (Y Cyrff, Y Ffyrc, Catatonia), Owen Powell (Catatonia), Osian Gwynedd (Big Leaves, Sibrydion) a Steve Jenkins (drymiwr gwreiddiol Catatonia i fod!).
Dyma’t trac gwych sy’n cloi’r casgliad ‘Mae Popeth yn Neud Synnwyr Rwan’:
Un Peth arall: Fideos Triban ar Lŵp
Mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi mwynhau gŵyl Triban ar benwythnos olaf Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri wythnos diwethaf.
Newyddion da felly bod sianel Lŵp, S4C ar YouTube wedyn dechrau cyhoeddi ambell fideo o berfformiadau byw o’r llwyfan. Mae’n siwr bydd mwy yn dilyn, ond ar hyn o bryd ’mae ’na un o Gwilym yn perfformio ‘Dwi’n Cychwyn Tân’ a hwn gan Mared: