Pump i’r Penwythnos – 10 Chwefror 2023

A hithau’n Ddydd Miwsig Cymru heddiw mae digonedd o bethau cerddorol gwych ar y gweill penwythnos yma. Dyma rai argymhellion gan Y Selar…

 

Gig: Gwobr Goffa Richard a Wyn Ail Symudiad – Canolfan Hermon – 10/02/23

Mae dipyn o ddewis o gigs penwythnos yma – cymrwch gip ar galendr gigs Y Selar i weld beth sydd mlaen mewn gwahanol rannau o’r wlad. 

Un o’r amlycaf i nodi Dydd Miwsig Cymru ydy hwnnw yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heddiw gyda Tara Bandito yn arwain lein-yp sy’n cynnwys llwyth o artistiaid anhygoel. 

Er hynny, ein prif ddewis ni yr wythnos hon ydy’r noson arbennig i ddewis enillydd Gwobr Goffa Richard a Wyn Ail Symudiad yng Nghanolfan Hermon heno. Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal a bydd Bwncath yn cloi y noson. 

 

Cân: ‘Canna’ – Gwcci

Bach o hip-hop wythnos yma a sengl ddiweddaraf y prosiect dirgel, Gwcci.

Mae ‘Canna’ allan ar label Recordiau Bica, a dyma ail sengl Gwcci, gan ddilyn y trac ‘Sgerbyde’ a ryddhawyd fis Hydref diwethaf o gwmpas cyfnod Calan Gaeaf. 

 

Artist: Izzy Rabey

Os ydach chi’n dilyn stwff Y Selar fe fyddwch chi’n gwybod ein bod ni’n ffans mawr o waith Izzy Rabey. 

Yn y gorffennol mae’r artist a rapiwr wedi cyd-weithio gyda llwyth o bobl ar brosiectau amrywiol. Yr amlycaf i ni efallai ydy ei phartneriaeth gydag Eädyth sydd wedi arwain at ryddhau’r EP, Mas o Ma, yn Hydref 2020, ac yn ddiweddarach yr anthem i Gymru fodern, ‘Cymru Ni’.

Nawr, mae Izzy nôl gyda cherddoriaeth unigol a’r sengl ‘Gwaed’ allan ers wythnos diwethaf. 

 

Record: Sbardun

Record newydd sydd allan heddiw ydy’r EP aml-gyfrannog ar label High Grade Grooves, Sbardun. 

Y cynhyrchydd electronig Endaf sy’n gyfrifol am High Grave Grooves, a dyma’r EP cyntaf i ymddangos ar y label, sy’n rhyddhau senglau ers sbel ynghyd a threfnu ddigwyddiadau amrywiol. 

Mae llwyth o artistiaid gwych yn ymddangos ar yr EP 5 trac gan gynnwys Mali Hâf, Eädyth, Sachasom, Sera, skylrk. a llawer mwy. 

Dyma un o’r caneuon, ‘Eiliadau’, sy’n gweld Eädyth yn cyd-weithio gyda Mali Hâf ac Unity. 

 

Un Peth Arall: Gwobrau’r Selar – cyfle olaf i bleidleisio

Fe wnawn ni fanteisio ar y cyfle i’ch hannog chi i fwrw pleidlais dros Wobrau’r Selar cyn iddi fynd yn rhy hwyr! 

Mae’r bleidlais gyhoeddus yn cau ddydd Sul yma, 12 Chwefror, felly peidiwch a cholli’r cyfle i ddylanwadu ar yr enillwyr eleni – mae sawl categori dal yn agos iawn! 

Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2022