Pump i’r Penwythnos – 10 Mawrth 2023

Gig: Candelas, Dadleoli – Clwb Rhyddfrydol 

Ambell gig bach da penwythnos yma, gan ddechrau heno wrth i Candelas ymweld â Chaerdydd ar gyfer gig Clwb Canna yng Nghlwb Rhyddfrydol Pontcanna. Y band newydd lleol, Dadleoli fydd yn cefnogi.

Cwpl o gigs da nos fory hefyd gan gynnwys Bwncath yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy, gyda’r band lleol o Ddyffryn Conwy, Yr Anghysur yn gefnogaeth.

Cyfle hefyd i weld Pedair yn perfformio yn Pontio, Bangor nos fory ynghyd â’r ardderchog Cerys Hafana.

 

Cân: ‘Dim Arwyr’ – Chwalaw

Sengl newydd Chwalaw ydy ein dewis o drac yr wythnos yma.

‘Dim Arwyr’ ydy enw cynnig diweddaraf prosiect electronig Efa Supertramp a’r cynhyrchydd Nick Ronin, ac maent yn cael cwmni Cerys Hafana ac Izzy Rabey ar hon.

Mae’r trac wedi’i ysgogi gan chwedlau a thraddodiadau Sorbaidd a Chymreig, ond yn cwestiynu eu hagwedd a’r gwaddol maent wedi gadael. 

Mae fideo gwych i gyd-fynd â’r sengl hefyd sy’n gyflafan o fŵg a mwd!

 

Artist: Roughion

Bydd darllenwyr Y Selar yn hen gyfarwydd ag enw Roughion erbyn hyn, ac yn falch iawn i glywed mai nhw ydy enillwyr diweddaraf Gwobr Llwybr Llaethog.

Roughion ydy prosiect electronig y ddeuawd o Geredigion, Gwion James a Steffan Woodruff. 

Ffurfiodd y band yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl, ond maent bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd. Yn ogystal â chreu tiwns electro gwych, maent hefyd yn hyrwyddo nosweithiau electronig yn y brifddinas ac yn rhedeg label Afanc.

Cyhoeddwyd wythnos diwethaf mai nhw oedd enillwyr diweddaraf gwobr flynyddol y band dub chwedlonol, Llwybr Llaethog, gan ddilyn enillwyr blaenorol sy’n cynnwys Hap a Damwain, Adwaith a Mr Phormula.

Llongyfarchiadau mawr i Roughion am ymuno â’r rhestr ddethol yma o enwau.

Sengl ddiweddaraf y band ydy ‘Uwchfioled’ lle maent yn cyd-weithio gyda Mali Hâf:

 

Record: Dos Bebés – Rogue Jones

Dim ond un dewis oedd ar gyfer record yr wythnos yma wrth i Rogue Jones ryddhau ei hail albwm wythnos diwethaf.

Dos Bebés ydy enw record hir newydd y band sy’n cael eu harwain gan y pâr priod Ynyr a Bethan Mai Morgan Ifan, ac mae’r enw’n un arwyddocaol  wrth iddi gael ei recordio dros gyfnod o 5 mlynedd â gychwynnodd tra eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf, ac a ddaeth i ben ychydig cyn genedigaeth eu hail blentyn.

Yn ôl y band mae’n albwm sy’n archwilio bywyd yn ei holl ogoniant blêr – golau a thywyll, dwys a chwerthinllyd…amrwd, bombastig, bregus, addfwyn, mawr, chwareus. 

“Mae rhai caneuon yn ymwneud yn uniongyrchol â bod yn rhiant, ond mae pob cân yn cael ei gweld trwy’r prism o ddod yn rhieni mewn ffordd; boed yn ymwneud ag ysbrydolrwydd, crefydd, gwleidyddiaeth neu unrhyw beth arall” meddai’r ddeuawd. 

Rydym wedi cael sawl tamaid i aros pryd dros y misoedd diwethaf gan gynnwys y senglau poblogaidd ‘Triongl Dyfed’ ym mis Tachwedd 2022 a’r sengl ddwbl ‘1,2,3’ / ‘Fflachlwch Bach’ ddechrau mis Chwefror. 

Dyma’r fideo diweddar gwych ar gyfer ‘1, 2, 3’

 

Un Peth Arall: Fideo ‘Ffydd’ gan Dienw

Fideo arall i chi fel ‘un peth arall’ wythnos yma, a’r fideo ar gyfer sengl nesaf y grŵp ifanc o Wynedd, Dienw. 

Rydan ni’n ffans mawr o waith y ddeuawd Twm Herd ac Osian Land yma yn Selar HQ ac yn falch iawn i glywed bod sengl newydd ar y ffordd ganddynt yn fuan. 

Mae Twm ac Osian yn ymddangos yn y fideo newydd ynghyd â’r actorion amlwg Owen Alun a Catrin Mara.

Aled Wyn Jones ac Elis Derby sy’n gyfrifol am y cynhyrchu a chyfarwyddo wrth i’r fideo ddilyn stori dywyll y cymeriad ‘Dienw’.