Gig: Noson gydag Elin Fflur, Bañera, Aberystwyth – Sadwrn 17 Mehefin
Rhywbeth hollol wahanol i chi fel dewis o gig wythnos yma. Noson fach agos atoch chi gyda’r hyfryd Elin Fflur ym mar Coctêls y Bañera yn Aberystwyth.
Roedd tocynnau dal ar ôl y tro diwethaf i ni edrych!
Cyfle hefyd nos Sadwrn i weld Fleur de Lys yn perfformio yn y brifddinas, wrth iddyn nhwn gamu i lwyfan Clwb Ifor Bach.
Ydach chi’n trefnu gig? Cofiwch yrru’r manylion ar gyfer ei gynnwys yng nghalendr gigs Y Selar.
Cân: ‘Tôn Gron’ – Lloyd Steele
Grêt i weld Lloyd yn ôl gyda sengl unigol arall sydd allan ar Côsh ers wythnos diwethaf.
“Mae’r gân yma’n seiliedig ar drïo dod o hyd i’r petha’ bach da mewn bywyd ac i’w gwerthfawrogi nhw” eglura Lloyd.
“Wrth gyfeirio’n ôl at y cyfnod clo lle’r oedd pob un dydd yn teimlo’r un peth, roedd o’n bwysig gadael dy hun i fwynhau er gwaetha’r cyfnod ansicr.”
Record: Hafod – Bwca
Mae ail albwm y band o Aberystwyth, Bwca, allan penwythnos yma ar label Recordiau Hambon.
Bwca ydy’r band o ardal Aberystwyth sy’n cael eu harwain gan y cerddor Steff Rees. Rhyddhawyd eu halbwm hunan-deitlog cyntaf ym mis Tachwedd 2020.
Wythnos diwethaf fe wnaethon nhw ryddhau teitl-drac y record hir newydd fel tamaid i aros pryd nes dyddiad rhyddhau’r albwm llawn.
Mae’r albwm allan yn ddigidol ac ar CD ac mae’r teitl-drac yn gosod y thema ar gyfer gweddill y casgliad – dianc mewn i natur a mwynhau pleserau syml bywyd.
Fe fydd lansiad swyddogol yr albwm yn digwydd yn nhafarn Y Llew Gwyn, Talybont ar 23 Mehefin fel rhan o nosweithiau enwog ‘Sesiwn Nos Wener’ Talybont.
Artist: Dafydd Owain
Mae enw Dafydd Owain wedi bod yn un amlwg iawn hyd yma yn ystod 2023 wrth iddo ryddhau cyfres o senglau’n gynharach yn y flwyddyn, ac yna ei albwm unigol cyntaf rhyw fis yn ôl.
‘Uwch Dros y Pysgod’ oedd enw ei sengl gyntaf a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni, a daeth yn amlwg yn fuan iawn mai hon oedd teitl-drac ei albwm sydd bellach allan ar label Recordiau I KA CHING.
Mae Dafydd wrth gwrs yn enw cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd – bu’n aelod o’r bandiau Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco yn y gorffennol.
Rydan ni wedi rhoi tipyn o sylw iddo dros y misoedd diwethaf, ac mae’n deg dweud bod ei gerddoriaeth unigol yn hyfryd iawn iawn.
Mae cyfle i ni roi sylw pellach iddo yr wythnos hon gan fod Gruffudd ab Owain wedi bod yn sgwrsio gyda’r cerddor ar gyfer cyfweliad arbennig ar wefan Y Selar.
Yn y cyfweliad, mae’n datgelu mai ‘Arthur Bach’ ydy ei hoff drac o’r record, felly dyma hi:
Un peth arall: Dafydd Iwan & Ali Goolyad
Dros y misoedd diwethaf mae cyfeillgarwch go annisgwyl wedi datblygu rhwng canwr gwerin enwocaf Cymru, a bardd ac actor a ddaw’n wreiddiol o Somaliland.
Cyfarfu Dafydd Iwan ac Ali Goolyad ar hap yng nghanol Caerdydd yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd.
Y cysylltiad â geiriau ‘Yma o Hyd’ a daniodd ddiddordeb yn y potensial ar gyfer cydweithrediad cerddorol/llafar rhwng y ddau Gymro balch sydd o gefndiroedd gwahanol iawn.
Dechrau mis Mehefin fe berfformiodd y ddau gyda’i gilydd mewn digwyddiad arbennig, Dathliad Cymru-Affrica 2023, a gynhaliwyd ym Methesda, ond cyn hynny bu iddynt berfformio yn fyw gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Lechi Cymru jysy cyn yr ŵyl.
Roedd camerau cyfres Lŵp, S4C yno i ddal yr achlysur a’r gân arbennig yma, ‘Rwyt Ti Fel Tae’r Awyr Yn Gefnfor (You’re Like If The Sky Was An Ocean)’, sydd yn seiliedig ar y gerdd wreiddiol gan Ali, ‘A Love Story’.