Pump i’r Penwythnos – 17 Chwefror 2023

Gig: Taith ddamweiniol Hap a Damwain

Rydan ni’n ffans mawr o Hap a Damwain yma yn Selar HQ ac mae pâr o gigs gan y ddeuawd amgen penwythnos yma. 

Cafodd albwm Hap a Damwain, Ni Neu Nhw, ei ryddhau ar ddiwedd mis Ionawr ac mae’r gigs penwythnos yma’n cael eu defnyddio fel gigs lansio swyddogol ar gyfer y fersiwn CD.. 

Bydd y cyntaf o’r rhain yn digwydd heno yn y Fic, Bethesda gyda Radio Rhydd yn gwmni. Yna bydd yr ail yn digwydd nos fory yn Nhŷ Glyndwr, Caernarfon

 

Cân: ‘Laura’ – Ciwb gydag Iwan Huws

Grêt i weld Ciwb, y grŵp sy’n dod a bywyd newydd i glasuron o ganeuon o’r archif, yn ôl gyda sengl newydd. 

Iwan Huws o Gowbois Rhos Botwnnog ydy’r cerddor diweddaraf i gydweithio gyda nhw ar un o draciau Endaf Emlyn sy’n dod o’i albwm enwocaf, Salem. 

Mae fideo gwych i gyd-fynd â’r sengl sydd wedi’i greu gan Ffotonant.

 

Artist: Wigwam

Credwch neu beidio mae’n bedair blynedd ers i ni weld unrhyw gynnyrch newydd gan y band o Gaerdydd, Wigwam. 

Da felly oedd eu gweld yn ôl gyda sengl newydd wythnos diwethaf, ‘Problemau Pesimistaidd’. 

Mae aelodau Wigwam i gyd yn ddisgyblion yn ysgol Plasmawr, ac fe ffurfiodd y band tua 2017. 

Fe wnaethon nhw greu tipyn o argraff mewn amser byr wedi hynny wrth gigio’n gyson a chystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru yn Eisteddfod Caerdydd 2018. 

Gyda’r eisteddfod ar stepen eu drws yn y brifddinas, penderfynodd y band ei bod yn gyfle perffaith i ryddhau eu halbwm cyntaf, Coelcerth, ar ddechrau’r wythnos.

Ers hynny, dim ond un trac newydd sydd wedi ymddangos gan y band sef ‘Rhyddid’ a ryddhawyd yn 2019. 

Da felly ei gweld yn dychwelyd gyda ‘Problemau Pesimistaidd’ – ffrwydrad o gân sy’n plethu sŵn cyflym indie ‘Rhyddid’ gydag haenau o jangle a power-pop i greu sain ffres i’r band.

Mae mwy i ddod gan Wigwam gobeithio gyda sôn am EP newydd a bwriad i gigio tipyn eleni. 

 

Record: Rhestr Fer Record Hir Orau 2022

Mae wythnos nesaf yn wythnos Gwobrau’r Selar gyda chyhoeddiadau enillwyr yn cael eu gwneud drwy gydol yr wythnos ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru. 

Un o uchafbwyntiau’r gwobrau bob tro ydy datgelu enillydd gwobr y Record Hir Orau, ac mae ein rhestr 10 Uchaf yn rhifyn y gwanwyn o gylchgrawn Y Selar bob amser yn boblogaidd. 

Roedden ni’n meddwl felly fod Pump i’r Penwythnos wythnos yma’n gyfle perffaith i ddatgelu’r rhestr fer ar gyfer y categori yma eleni. 

Y cyhoedd sy’n gyfrifol am ddewis enillydd y wobr yma, ynghyd â 9 o’r lleill gyda’r bleidlais yn cau wythnos diwethaf. Dyma’r dair record hir ddaeth i frig y bleidlais eleni:

  • Bato Mato – Adwaith
  • Seren – Angharad Rhiannon
  • Sŵnamii – Sŵnami

Braf gweld cymaint o amrywiaeth ar frig y rhestr gyda thri albwm hollol wahanol i’w gilydd. 

Rhyddhawyd ail albwm Adwaith, Bato Mato ym mis Gorffennaf ac roedd yn gam mawr ymlaen i’r triawd o Gaerfyrddin. Cipiodd y record deitl y Wobr Gerddoriaeth Gymraeig ym mis Hydref – tybed fyddan nhw’n gwneud y dwbl ac yn cipio gwobr Y Selar hefyd? 

Bydd Seren, albwm gyntaf Angharad Rhiannon, yn bach o sypreis i rai ar y rhestr fer mae’n siŵr, ond mae’r caneuon wedi bod yn boblogaidd ar y tonfeddi ac mae gan y ferch o Gwm Cynon lawer iawn i gefnogaeth. 

Roedd digon o heip o gwmpas rhyddhau ail albwm Sŵnami ddechrau mis Rhagfyr ar ôl cyfres o senglau a fideos gwych ganddyn nhw. Enillodd eu halbwm hunandeitlog cyntaf y wobr yma reit nôl yn 2015, tybed fyddan nhw’n ailadrodd y gamp gyda Sŵnamii? 

Un Peth Arall: Datgelu enillwyr cyntaf Gwobrau’r Selar 

Wythnos nesaf fydd prif wythnos Gwobrau’r Selar gyda’r naw categori sy’n cael eu dewis gan y cyhoedd yn cael eu datgelu ar raglenni Radio Cymru. 

Er hynny, mae wedi bod yn wythnos hyfryd wythnos yma hefyd wrth i ni ddatgelu enillwyr y ddwy wobr sy’n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar. 

Yn gyntaf, nos Fawrth, fe gyhoeddwyd mai Lisa Gwilym oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar eleni. Gwnaed y cyhoeddiad yn fyw ar raglen Georgia Ruth, gyda Rhys Mwyn yn cyflwyno ar ran Georgia, a doedd Lisa’n gwybod dim am y peth ymlaen llaw. Dwi’n siŵr y byddwch yn cytuno bod ei hymateb yn werth y byd: 

 

Senario ddigon tebyg oedd nos Iau ar raglen Huw Stephens wrth iddo dorri’r newyddion i Izzy Rabey mai hi oedd enillydd Gwobr 2022 Y Selar. Roedd ei hymateb hithau’n un o syndod sylweddol hefyd!

 

 

Llongyfarchiadau mawr Lisa ac Izzy – enillwyr haeddiannol iawn! 

Cofiwch wrando ar Radio Cymru wythnos nesaf am lu o gyhoeddiadau a chyflwyniadau gwobrau eraill.

(diolch i Rhys Mwyn am y llun ohono’n cyflwyno’r wobr i Lisa)