Pump i’r Penwythnos – 17 Mawrth 2023

Gig: Hap a Damwain, Ffos Goch – Neuadd Fictoria, Llanbed – 18/03/23

Ein prif ddewis o gig wythnos yma ydy hwnnw yn Llanbedr Pont Steffan nos fory gyda dau o fandiau mwyaf diddorol y sin ar hyn o bryd. Nid dyma’r tro cyntaf i Hap a Damwain berfformio yn Llanbed – fe wnaethon nhw chwarae yno fel rhan o Benwythnos Datblygu ym mis Mehefin llynedd

Ac maen nhw’n cael cwmni prosiect cerddorol a ddechreuodd diolch i’r penwythnos hwnnw, sef Ffos Goch. 

 

Cân: ‘DEG i DEG’ – Sage Todz

Mae’r rapiwr Sage Todz yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf dan yr enw ‘DEG i DEG’. 

Daeth Todz i amlygrwydd yn y gwanwyn llynedd gyda’i drac arddull drill ‘Rownd a Rownd’, cyn cyd-weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ryddhau’r sengl ‘O Hyd’ ym mis Mehefin

Wrth ryddhau’r sengl ddiweddaraf mae hefyd wedi cyhoeddi fideo ar-lein sydd wedi’i gynhyrchu gan Jack Wyn White a’i gyfarwyddo gan Deedy Media. 

 

Artist: Alys Glyn 

Dyma enw rydan ni’n mynd i glywed tipyn mwy ohono’n ystod 2023 yn nhyb Y Selar.  

Wythnos diwethaf fe ryddhaodd Alys ei sengl newydd, ‘Seithfed Nef’, ar label Recordiau Aran. 

Hon ydy ail sengl Alys gan ddilyn y gân Nadoligaidd ei naws, ‘Golau’, a ryddhawyd ddechrau mis Rhagfyr. 

Mae Alis yn 15 oed ac fe ddaw o Gaernarfon. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ar hyn o bryd ac wrth ei bodd yn cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon. 

Yn ôl Recordiau Aran, yn ystod 2022 mae wedi mwynhau perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron a Ffair Nadolig Glynllifon.

Mae hefyd wedi elwa’n fawr o fod ar ddau benwythnos Merched yn Gwneud Miwsig dan ofal Urdd Gobaith Cymru a Chlwb Ifor Bach yng Ngwersyll Glan Llyn yn ystod 2022 a chael cyfarfod a chyd-gyfansoddi gyda cherddorion a pherfformwyr eraill.

Mae wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y sengl newydd, dyma fo:

 

 

Record: Sbardun – Artistiaid Amrywiol

Ein dewis o record yr wythnos yma ydy EP a ryddhawyd rhyw fis yn ôl, dan yr enw Sbardun. 

Dyma EP cyntaf y label cerddoriaeth electronig o Ogledd Cymru High Grade Grooves, sy’bn cael ei redeg gan y cynhyrchydd Endaf. 

Mae’r record fer yn cynnwys ffrwyth cyd-weithio cerddorol rhwng 15 o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru, gyda phump o ganeuon – pob un wedi’u creu gan ddau gynhyrchydd a phrif leisydd. 

Traciau’r casgliad ydy: 

‘Pelydrau’ – Endaf, Tom Macaulay, Melda Lois

‘Niwed’ – Shamoniks, skylrk. , Sachasom  

‘Tears In Rain’ – Mesijo, Maditronique, Mike R.P  

Cyffwrdd’ – Ifan Dafydd, keyala, Sera  

‘Eiliadau’ – Eadyth, Mali Haf, Unity 

“Ychydig llai na blwyddyn yn ôl, gwnaethom ni alwad agored ar gyfer artistiaid oedd eisiau gwneud cais ar gyfer sesiynau stiwdio gyda’n tîm o gynhyrchwyr o’r Gogledd a’r De, cyfle i greu trac gyda’n gilydd” eglurodd Endaf.

Cynhaliwyd y sesiynau recordio hynny yn Stiwdios Sain yng Ngogledd Cymru, a Music Box Studios yng Nghaerdydd a ffrwyth y llafur hwnnw ydy Sbardun. 

Dyma ‘Pelydrau’ sy’n gweld Endaf ei hun yn cydweithio gyda Tom Macaulay a Melda Lois. 

 

 

 

Un Peth Arall: Gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig

Bydd prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn cynnal dau weithdy mewn cydweithrediad ag Eisteddfod yr Urdd dros y ddeufis nesaf. 

Cynhelir y cyntaf o’r rhain ar benwythnos 25 a 26 Mawrth yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin lle bydd cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau jamio a chyfansoddi er mwyn creu cân swyddogol Eisteddfod yr Urdd gyda’r band Adwaith. 

Bydd yr ail weithdy hefyd yn digwydd yn Yr Egin, a hynny ar 29-30 Ebrill lle bydd sesiynau recordio a chynhyrchu gyda’r gantores Hana Lili. 

Mae’r gweithdai yn agored i ferched dros 16 oed ac mae modd cofrestru i gymryd rhan nawr – rydan ni’n ffans mawr o’r gweithdai a phrosiect MyGM, felly ewch amdani genod.