Pump i’r Penwythnos – 19 Mai 2023

Gig: Tregaroc – Tregaron – 20/05/23

Mae gŵyl gerddoriaeth boblogaidd tref leiaf Ceredigion, a lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd, yn ôl a bydd digon o sŵn yn Nhregaron ddydd Sadwrn.

Yws Gwynedd ydy’r prif atyniad ym mhabell fawr y Clwb Rygbi ddiwedd y nos gyda chefnogaeth gan Mellt a Meinir Gwilym.

Bydd cyfle hefyd i weld Band Pres Llareggub, Tecwyn Ifan, Blodau Papur a mwy yn ystod y prynhawn.

 

Cân: ‘Charrango’ – Yws Gwynedd

Da gweld Yws Gwynedd yn ôl gyda sengl newydd, ‘Charrango’.

Mae ’na fideo bach da i gyd-fynd â’r sengl ddiweddaraf a hwnnw wedi’i ffilmio gan FfotoNant yn stiwdio deledu newydd Aria, Llangefni, sef cartref diweddaraf set cyfres deledu boblogaidd ‘Rownd a Rownd’. 

Dyma’r fid:

 

Artist: Mei Gwynedd

Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Mei Gwynedd gan ei fod yn un o gerddorion mwyaf blaengar a gweithgar Cymru ers sawl degawd bellach.

Dros y blynyddoedd mae Mei wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth fel aelod o rai o grwpiau mwyaf y sin roc Gymraeg gan gynnwys Beganifs, Big Leaves, The Peth a Sibrydion.

Mae hefyd yn fwy diweddar wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol gyda’i albwm cyntaf, Glas, yn glanio yn 2018 ac yna’r dilyniant, Y Gwir yn Erbyn y Byd, yn 2021.

Er hynny, mae wedi cymryd trywydd eithaf gwahanol gyda’i albwm diweddaraf  gan droi at ail-gynhyrchu ac ail-recordio detholiad o ganeuon traddodiadol Cymraeg.

Enw’r albwm newydd ydy Sesiynau Tŷ Potas ac mae’n cynnwys tair ar ddeg o ganeuon fydd yn gyfarwydd i bron pawb mae’n siŵr – ‘Defaid William Morgan’, ‘Titw Tomos Las’ a ‘Sosban Fach’ i enwi dim ond tair. 

“Ges i’n magu’n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia’r Wyddfa, Mynediad Am Ddim, Dafydd Iwan heb sôn am yr ystod o ganeuon traddodiadol o’n i’n canu tra’n yr ysgol ac yn y capel pan o’n i’n ifanc” meddai Mei. 

“Wrth deithio Cymru fel band a chynnal gweithdai efo pobl ifanc, nes i weld a theimlo’r angen i gydnabod y caneuon hynny, a bod dyletswydd i rannu a chario ‘mlaen efo’r traddodiad o’u canu am flynyddoedd i ddod, i’n plant ac o genhedlaeth i genhedlaeth.” 

Mae bron yn sicr bydd Mei yn cyflawni’r nod hwnnw, yn enwedig gan ei fod hefyd wedi rhyddhau fersiwn carioci o’r holl ganeuon!

Dyma ‘Rownd yr Horn’:

 

Record: Rhywle Pell – Achlysurol

Band sydd wedi bod yn mynd o gwmpas eu pethau’n ddigon di-lol ond yn effeithiol iawn ydy Achlysurol.

Bron o unlle felly y glaniodd eu halbwm cyntaf, Rhywle Pell, wythnos diwethaf.

Triawd o’r Felinheli ydy Achlysurol, sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Rhys Williams. 

Maen nhw wedi bod yn rhyddhau senglau’n…wel, yn achlysurol…ers peth amser gyda’r traciau diweddar  ‘Caerdydd Yn Mis Awst’, ‘Un Noson Arall’ a ‘Golau Gwyrdd’ yn creu argraff. 

Mae sain y band yn fachog ac yn felodig, gyda’u trefniadau hamddenol, hypnotig yn gweddu’r haf yn berffaith – mae rhain yn siŵr o gael croeso mawr yng ngwyliau’r haf eleni. 

Dyma un esiampl dda o’u sŵn hafaidd, ‘Caerdydd ym mis Awst’:

Un peth arall…: Ail-ryddhau Hei Vidal!

Newyddion cyffrous yn torri ddoe wrth i Gruff Rhys gyhoeddi bydd fersiwn newydd o albwm band ei lencyndod, Ffa Coffi Pawb, yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Gorffennaf.

Hei Vidal! oedd enw trydydd albwm stiwdio Ffa Coffi Pawb, ac fe’i recordiwyd yn Stiwdio Ofn, gyda’r cynhyrchydd uchel iawn ei barch Gorwel Owen.

Rhyddhawyd yr albwm ym 1992 ar label Ankst, ond mae aelodau’r band wedi penderfynu ail-ryddhau’r record eleni er mwyn nodi 30 mlynedd ers sioe fyw olaf Ffa Coffi Pawb.

Aelodau eraill Ffa Coffi Pawb oedd Rhodri Puw, Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn, ac wrth gwrs, aeth Gruff a Dafydd ymlaen i ffurfio Super Furry Animals ar ôl i Ffa Coffi ddod i ben.

Y newyddion cyffrous pellach ydy bod yr albwm yn mynd i gael ei ryddhau ar ffurf feinyl am y tro cyntaf,  gyda nifer cyfyngedig o 100o o gopïau gyda dewis o ddau wahanol liw feinyl. Bydd y fersiwn newydd o’r casgliad hefyd ar gael ar ffurf CD a chasét.

Mae ’na lwyth o ganeuon gwych ar yr albwm gan gynnwys ‘Sega Segur’, ‘Dilyn Fy Nhrwyn’, ‘Ffarout’ a’r anhygoel ‘Lluchia Dy Fflachlwch Drosta i’: