Pump i’r Penwythnos – 24 Mawrth 2023

Gig: Sage Todz a Ffrindiau – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 24/03/23

Ambell gig bach da dros y penwythnos gan gynnwys un o hoff artistiaid pawb, The Gentle Good, yn Llety Arall, Caernarfon heno

Nos fory bydd HMS Morris yn ymweld a’r Clwb yn Llanrwst fel rhan o’u taith gyda chefnogaeth gan Bitw. 

Yng Nghaerdydd heno mae ein prif ddewis ni o gig penwythnos yma, a hynny gan bod noson arbennig iawn yng Nghlwb Ifor Bach yng nghwmni Sage Todz. Eitha’ prin fu ymddangosiadau byw Todz ers ffrwydro i amlygrwydd rhyw flwyddyn yn ôl, ond bydd y rapiwr ar lwyfan Clwb yng nghwmni sawl gwestai heno. 

Cân: ‘Agor y Drysau’ –  Popeth

Mae sengl ddiweddaraf prosiect ‘pop positif’ Ynyr Roberts, Popeth, allan heddiw ac mae ganddo bartner cerddorol newydd . 

Elin Wiliam ydy gwestai Popeth ar y gân ‘Agor y Drysau’ sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

Daw Elin yn wreiddiol o Fôn ond mae bellach wedi ymgartrefu yn ardal y Bala, ac mae’n enw newydd i’r sin. 

Ar ‘Agor y Drysau’ mae Popeth yn gwahodd pawb i ymadael â’r gaeaf ac agor y drysau i’r gwanwyn.

Dyma ydy pedwaredd cân y prosiect Popeth, a phedwerydd partner cerddorol Ynyr ar y prosiect gan ddilyn Bendigaydfran (Lewis Owen) Martha Grug a Kizzy Crawford.  A gydag addewid am fwy o gydweithio a chaneuon i’w rhyddhau yn ystod 2023, mae’n edrych fel y bydd yn flwyddyn brysur i’r prosiect.

Artist: Mei Emrys

Grêt i weld Mei Emrys yn ôl gyda’i sengl newydd, ‘Allan o’r Suddo’, sy’n ddathiad o ‘bob dim indie’ yn ôl y canwr-gyfansoddwr. 

Daeth Mei i amlygrwydd gyntaf fel ffryntman y band poblogaidd Vanta, ond mae bellach yn perfformio ac yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ers sawl blwyddyn. 

Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Llwch, yn 2017  ac roedd 2022 yn flwyddyn fywiog iddo wrth iddo ryddhau’r senglau ‘Uwchben y Dŵr’ / ‘29’ ym mis Gorffennaf ac yna ‘Bore Sul (Yn Ei Thŷ Hi)’ ym mis Hydref. 

Yn ôl Mei, mae’r sengl ddiweddaraf yn dipyn trymach na rhain, gyda chôr o gitârs budur sy’n atgoffa rhywun o fandiau fel Oasis a Kasabian. 

Dyma fideo ‘Allan o’r Suddo’ sydd wedi’i gynhyrchu gan Dafydd Owen, Ffotonant: 

 

Record: Sugno Gola – Gwilym

Wrth i’r band o’r gogledd, Gwilym, gael eu datgelu fel hedleinars yng Ngŵyl Fach y Fro ac yng ngŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog wythnos diwethaf, mae’n gyfle perffaith i ni roi bach o sylw i albwm cyntaf y band. 

Sugno Gola oedd enw record hir gyntaf y grŵp a ryddhawyd ym 2018, ac roedd yn hynod boblogaidd. Cymaint felly nes i Gwilym gipio pump o Wobrau’r Selar am y flwyddyn honno, gan gynnwys y Record Hir Orau am yr albwm. 

Tiwns, tiwns, tiwns. Dyna oedd ar Sugno Gola gan gynnwys enillydd y wobr am y Gân Orau yng Ngwobrau’r Selar, ‘Catalunya’, a ffefrynnau ar y tonfeddi fel ‘Fyny ac yn Ol’, ‘Llechan Lân’ a ‘Cwîn’. 

Rydan ni am i chi wrando ar un o’r caneuon sydd heb gael gymaint o sylw heddiw, sef ‘Ddoe’, lle mae’r band yn benthyg llais bendigedig neb llai na Mared. Lyfli

 

 

Un Peth Arall: Gig Cicio’r Castell

Mae sianel YouTube ardderchog Ffarout wedi bod ychydig yn dawel yn ddiweddar felly roedd yn grêt i weld bach o fywiogrwydd unwaith eto dros yr wythnos diwethaf. 

Yr hyn sydd wedi ymddangos ar y sianel dros y dyddiau diwethaf ydy swp o fideos o berfformiadau yn gig chwedlonol ‘Cicio’r Castell’ ym 1991. 

Rydan ni wedi sôn am y gig yma yn y gorffennol ac roedd o braidd yn randym o edrych nôl. Cynhaliwyd y gig yng Nghastell Carreg Cennen yn Sir Gâr, ddim ymhell o Landeilo. Roedd o hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C, sy’n ddefnyddiol gan bod recordiad o’r bandiau wedi’i wneud wrth gwrs. 

Ac roedd y bandiau ar y leinyp yn sicr yn dod â dwr i’r dannedd… er na fedrwn ni ffeindio’r leinyp llawn yn unrhyw le yr eiliad yma i rannu gyda chi! Rhowch waedd os ydy hwn ganddo chi, neu gopi o’r poster. 

Un band oedd yn sicr yno oedd Y Cyrff a dyma nhw’n perfformio’r glasur Hwyl Fawr Heulwen…