Gig: Ffenest, Dafydd Owain, DJ Alaw – Tŷ Glyndwr, Caernarfon – 27/05/23
Yng Nghaernarfon mae ein dewis o gig i roi sylw iddo wythnos yma, a hynny yn lleoliad cymharol newydd Tŷ Glyndwr sydd i’w gweld yn cynnal mwy a mwy o stwff cerddorol yn ddiweddar.
Ffenest ydy’r prif atyniad sef prosiect seicadelig diweddaraf nifer o gerddorion amlwg. Mae’r band yn cynnwys George Amor (Omaloma, Sen Segur) a’i gyfaill o ddyddiau Sen Segur Ben Ellis, ynghyd ag Alex Morrison (Cate Le Bon, H Hawkline) a Guto Evans (Crinc, Malan).
Bach o siwpyr grŵp felly ond un sy’n cadw pethau’n weddol gyfrin ar hyn o bryd.
Yn cefnogi mae Dafydd Owain, sy’n ffresh o ryddhau ei albwm cyntaf (mwy isod) a DJ Alaw yn troelli ar y deciau.
Cân: ‘Pry yn y Gwynt’ – Kim Hon
Da gweld Kim Hon yn fywiog ar hyn o bryd ac maen nhw wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Pry yn y Gwynt’ ar label recordiau Côsh wythnos diwethaf.
Tua mis sydd ers i’r band ryddhau eu cynnyrch cyntaf ers ymuno gyda label recordiau Côsh sef y sengl ddwbl ‘Baseball / Interstellar Helen Keller’, a nawr maen nhw nôl gyda chân sydd ychydig bach yn wahanol i’r hyn y byddech chi’n disgwyl gan Kim Hon.
Mae rheswm da am y bywiogrwydd diweddar gan eu bod nhw’n gobeithio gallu rhyddhau albwm erbyn diwedd yr haf felly mae’r senglau’n saethu allan un ar ôl y llall i ddod a dŵr i ddannedd eu cefnogwr.
“Noson allan arall yng Nghaernarfon yn cael fy chwythu o un dafarn i’r llall heb ddim math o reolaeth i ba gyfeiriad dwi’n mynd. Fatha ‘Pry yn y Gwynt’” meddai Iwan Fôn, canwr Kim Hon, wrth sôn am eu sengl newydd.
“Y paranoia a’r prydferthwch o golli dy ben mewn tre’ sy’n bell o fod yn ddiniwed. Yna ar ddiwedd y noson, yn oriau mân y bora’ pan mae’r gwynt wedi stopio chwythu, mae’r pry bach yn begio i gael cysgu wrth droi a throsi, pendroni a difaru yn begio’r ‘up’ fynd lawr. Llawr llynca fi lawr, lawr, lawr.”
Dyma berfformiad byw o ‘Pry yn y Gwynt’ gan Kim Hon ar gyfer rhaglen Curadur reit nôl yn 2019!
Artist: Ci Gofod
Ci Gofod ydy prosiect cerddorol y canwr gyfansoddwr o Banybont, Jack Thomas Davies sy’n creu cerddoriaeth pop, ffync a disgo, ac mae newydd ryddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf.
‘Ysbrydoliaeth’ ydy enw ei sengl ddiweddaraf sydd allan yn ddigidol, ac mae’n flas o EP Ci Gofod sydd i’w ryddhau ar 30 Mehefin.
Mae’r sengl Gymraeg ddiweddaraf gan yr artist dwyieithog yn ddilyniant i ‘Rhedeg yn y Nos’ a ryddhawyd ddechrau mis Mawrth eleni.
Rhyddhaodd Ci Gofod ei sengl unigol gyntaf yn 2020 sef y trac ‘Castle Square, ac mae’r cerddor yn dwyn dylanwad gan artistiaid fel Super Furry Anomals a Sly and the Family Stone. Mae ei sengl ddiweddaraf yn drac ffynci sy’n toddi sŵn gitâr breuddwydiol dros felodïau ymlaciol.
Mae’n Jack yn ysgrifennu a recordio ei gerddoriaeth yn ei stiwdio ystafell wely yn y Cymoedd, ac yn dod ag iwfforia indie-ffync i lwyfannau gyda’i fand byw sy’n cynnwys Josh David Read (allweddellau, gitâr, llais), Lloyd Bastian (gitâr, llais), Quillian Thomas (bas) a Josh Cox (Drymiau).
Dywed Jack mae nod Ci Gofod ydy llenwi lloriau dawns gyda’r sŵn egnïol a lliwgar, ac mae ei olygon ar wneud marc hirhoedlog ar sin gerddoriaeth De Cymru.
Dyma ‘Ysbrydoliaeth’, ac mae hi’n diiiiwn!
Record: Uwch Dros y Pysgod – Dafydd Owain
Mae’n anodd anwybyddu Dafydd Owain ar hyn o bryd.
Mae’r cyn aelod o’r bandiau Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco wedi bod yn amlwg iawn ers dechrau’r flwyddyn wrth iddo ryddhau ei senglau cyntaf fel artist unigol.
Bellach, mae’r albwm wedi glanio, ac mae Uwch Dros y Pysgod wedi dal dychymyg pawb.
“Dechreuais weithio ar yr albwm yn anfwriadol tua deng mlynedd yn ôl” eglura Dafydd.
“Mae gen i demo o ‘Uwch Dros y Pysgod’ ar fy nghyfrifiadur a recordiwyd ym mis Awst 2012. Ychydig a wyddwn bryd hynny, yn ystod haf chwyslyd yn 2022, y byddwn yn recordio’r gân fel y trac teitl ar gyfer fy albwm unigol cyntaf.”
Albwm cysyniadol ydy Uwch Dros y Pysgod am bentref dychmygol o’r un enw – pentref sydd wedi’i ysbrydoli gan raglenni teledu plant o ieuenctid Dafydd.
“Pentref sydd wedi’i hysbrydoli gan raglenni plant ‘stop-motion’ Cymraeg fel Joshua Jones a Sam Tân” eglura Dafydd.
“Gwyliais y rhaglenni hyn yn ddeddfol fel plentyn, gan gymryd cysur o’u straeon fformiwlâig a’u naratifau naïf. Roedd popeth yn reit hunky-dory yn y bydoedd yma ond wrth gwrs, nid felly mae bywyd go iawn o reidrwydd.”
“Mae’r albwm yn ei gyfanrwydd wedi ei selio ym mhentref dychmygol Uwch Dros y Pysgod ac mae profiadau bywyd yn cael eu datgelu drwy bersbectif trigolion dychmygol y pentref.”
Wedi’i recordio rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2022 yn Stiwdio Sain yn Llandwrog a stiwdio fechan mewn ystafell wely sbâr yng Nghaerdydd, mae’r albwm yn cynnwys llu o gerddorion dawnus o’r sin gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Osian Williams (Candelas), Gethin Griffiths (Ciwb), Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis a Rio 18) a Harri Owain (Rogue Jones). Mae’r gantores opera talentog, Beca Davies, hefyd yn llefaru ar yr albwm.
Dyma’r cyflwyniad bach hyfryd sy’n agor y casgliad, ‘Draw Dros y Gorwel’:
Un Peth Arall…: Fideo ‘Llawn’ – Gillie
Mae ’na dipyn bach o buzz o gwmpas yr artist arbrofol o Sir Gaerfyrddin, Gillie sydd wedi dechrau rhyddhau cerddoriaeth ar label Libertino yn ddiweddar.
Ym mis Hydref rhyddhaodd ei sengl Gymraeg gyntaf ‘I ti’ ar label Libertino, ac fe ryddhaodd ddilyniant i honno, sef ‘Llawn’, ar ddiwedd mis Ebrill eleni.
Y newyddion cyffrous arall sydd newydd dorri wythnos yma ydy bod Gillie bellach hefyd wedi ymuno â’r band Adwaith fel pedwerydd aelod!
Wythnos yma hefyd mae fideo newydd ar gyfer ei sengl ddiweddaraf wedi ymddangos ar lwyfannau Lŵp, S4C.
Ffocws thematig y gân ‘Llawn’ yw’r rheolaeth sydd gan bobl neu bethau ‘allanol’ ar yr hunan. Ac, o bosib, y rhyddhâd a’r dycnwch a ganfyddir o fewn yr ansicrwydd hwnnw drwy archwilio’r hunan. Gwneir hynny trwy ddefnyddio bwyd fel trosiad, neu arf, i gyfleu’r ormodiaeth a’r syniad hwn o rywun yn bwydo rhywbeth neu rhyw naratif i rywun arall.
Yn y fideo mae Gillie ei hun yn actio rhan y ddau gymeriad neu dwy ran o’r un cymeriad efallai.
Fel darn mae’n hynod sinematig, gyda stampiau dylanwadol amlwg fel Wes Anderson i weld ar y cyfanwaith.
Aled Wyn Jones sy’n gyfrifol am waith cyfarwyddo a chynhyrchu’r fideo gydag Andy Pritchard hefyd yn cyfrannu at y gwaith cyfarwyddo.