Gig: Morgan Elwy @ Porth Tywyn ac Aberdaron
Mae’r wobr am gerddor prysura’r penwythnos yn mynd i Morgan Elwy gyda dau gyfle i’w weld yn perfformio penwythnos yma.
Mae’r cyntaf heno yng nghaffi Lolfa, Porth Tywyn ac yna fe fydd cyfle i’w ddal ym mhen draw’r byd nos fory wrth iddo gigio yn Nhy Newydd, Aberdaron.
Roedd o hefyd yn perfformio yn y Cwps, Aberystwyth nos Fercher diwethaf ac yn arbennig o dda yn ôl y sôn!
Cân: ‘Uwch Dros y Pysgod’ – Dafydd Owain
Mae sengl unigol gyntaf Dafydd Owain allan heddiw ar label I KA CHING.
Bydd enw Dafydd yn un cyfarwydd i lawer fel aelod o’r bandiau Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco.
Er hynny, ‘Uwch Dros y Pysgod’, ydy ei gynnig unigol cyntaf, er bod sôn am fwy o senglau i ddilyn ynghyd ag albwm nes mlaen yn y flwyddyn.
“Cân lled-hunan-bortreadol yw ‘Uwch Dros y Pysgod’ sy’n taro golwg ar fodlonrwydd diniwed plentyndod gyfochr â melancoli dryslyd bod yn oedolyn”, meddai Dafydd.
“Mae hi’n gân sy’n seiliedig ar bentref dychmygol dan yr un enw — pentref tebyg iawn i’r pentrefi ar raglenni megis Joshua Jones neu Sam Tân.
“Roeddwn yn arfer gwylio rhaglenni o’r fath yn ddeddfol pan yn blentyn ac yn cymryd cysur o’u straeon fformiwläig. Do’dd na’m ots pa mor enfawr oedd y broblem, roedd popeth wedi ei ddatrys ac yn ôl i normal erbyn diwedd y bennod deng munud.
“Doedd y rhaglenni ’ma’n fawr o baratoad i fod yn oedolyn.”
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl gan griw Lwp:
Artist: hippies vs Ghosts
Ein dewis o artist wythnos yma ydy Hippies Vs Ghosts, sydd wedi cael mis prysur yn rhyddhau cynnyrch newydd.
Hippies vs Ghosts ydy prosiect unigol Owain Ginsberg, sydd gyfarwydd fel aelod o’r grwpiau Gogz, The Heights ac We Are Animal.
Creodd gryn argraff gyda’r albwm ‘Droogs’ yn 2015, ac fe gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn honno.
Ar ddechrau mis Ionawr, rhyddhaodd ei sengl ddiweddaraf, ‘Wrth y Môr’, ynghyd â’r newyddion fod y trac yn rhagflas o’r hyn oedd i ddod ar ei albwm newydd.
Bellach, mae’r albwm hwnnw, Green Planet, wedi glanio ers dydd Llun diwethaf ac ar gael ar safle Bandcamp Hippies Vs Ghosts.
Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir ddiweddaraf Hippies Vs Ghosts, giamocs, a ryddhawyd ym mis Ebrill 2022 ac yn llawn o diwns tripi breuddwydiol lyfli.
Dyma’r ardderchog ‘Wrth y Môr’:
Record: Discodawn – Diffiniad
Mae Diffiniad wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd ers dechrau’r wythnos.
A hwythau’n fand a wnaeth eu marc yn bennaf yn y 1990au, roedden ni’n meddwl bod hwn yn gyfle perffaith i fwrw golwg nôl ar eu cynnyrch cynnar, ac yn benodol y casét Discodawn a ryddhawyd ar label Ankst 30 blynedd yn ôl ym 1993.
8 trac oedd ar y record, ac mae’n siŵr mai ‘Cmon Co Ni’n Mynd’, ‘Ffydd’, ‘Symud Ymlaen’ a ‘Dewch at Eich Gilydd’ ydy’r amlycaf o’r caneuon yma – mae rhai o’r rhain yn dal i gael rhywfaint o airplay achlysurol ar y tonfeddi.
Efallai bod nifer o’r caneuon yn perthyn i’w hamser, ond mae’n gasgliad a greodd argraff ar y pryd ac fe fyddai wedi bod yn record gyntaf arbennig o dda gan fand ifanc.
Mae’n ddifyr gweld Diffiniad yn ôl, a’r taciau newydd ‘Aur’ a ‘Peryglus’ ydy’r diweddaraf mewn cyfres fach o ganeuon newydd ganddyn nhw ers iddynt wneud perfformiadau byw yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2018 a 2019.
Dyma chi berfformiad bach o’r archif o’r gân ‘Cmon Co Ni’n Mynd’ gyda Diffiniad yn perfformio’n ‘fyw’ ar raglen gwallgof Slot Sadwrn ar S4C ym 1993 – yn Machynlleth o bobman mae’n ymddangos!
Un Peth Arall: Vlog SUNS Europe HMS Morris
Roedd HMS Morris ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio yng ngŵyl SUNS Europe yn Udine, Yr Eidal ym mis Tachwedd a nawr mae modd profi rhywfaint o’u profiad ar ffurf vlog ar sianel Lŵp, S4C.
Gŵyl celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn ieithoedd lleiafrifol ydy SUNS Europe a ffurfiwyd yn 2009 fel cystadleuaeth gerddoriaeth ar gyfer cymunedau lleiafrifol yn Ewrop. Mae bellach wedi datblygu i fod yn fan cyfarfod a chyfnewid rhwng artistiaid o grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop.
Mae sawl artist Cymraeg wedi perfformio yn yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Yr Ods, Adwaith, a Gruff Rhys.
Nawr mae modd gwylio vlog arbennig HMS Morris ar sianel YouTube Lŵp nawr, ynghyd â pherfformiad llawn o’u cân boblogaidd, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’.