Pump i’r Penwythnos – 3 Chwefror 2023

Gig: Adwaith @ Caerfyrddin a Chaer

Mae ambell gig bach neis o gwmpas penwythnos yma, sydd efallai ddim yn syndod gan ei bod hi’n Wythnos Lleoliadau Annibynnol. 

Un band sy’n ganolog i hynny ydy Adwaith, sydd eleni’n llysgenhadon Wythnos Lleoliadau Annibynnol

Mae ganddyn nhw ddau gig yn gysylltiedig â’r rôl penwythnos yma – y cyntaf yn The Live Rooms yng Nghaer heno, ac yna nos Sul yn CWRW, Caerfyrddin gyda’r ardderchog Ynys yn cefnogi. 

Cyfleoedd penwythnos yma hefyd i ddal dau gig yn Nhŷ Tawe, Abertawe gan ddechrau gyda Bwca a Bwncath heno, ac yna bydd Pedair yn ymweld nos fory

 

Cân: ‘Lleidr Amser’ – Sywel Nyw

Sengl ddwbl newydd Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn, sy’n cael ei sylw fel cân wythnos yma. 

Mae ‘Lleidr Amser’ a ‘Lleidr Amser II’ allan ers ddoe ar label Lwcus T

Rydan ni wedi arfer gweld Sywel Nyw yn cydweithio gydag artistiaid eraill wrth gwrs – ffrwyth llafur rhyddhau 12 sengl dros ddeuddeg mis gyda deuddeg artist gwahanol oedd ei albwm cyntaf, Deuddeg (wrth gwrs), a ryddhawyd yn Ionawr 2022. 

Mae’n partneriaethu gyda dau gerddor arall ar y sengl ddwbl sef ei hen ffrind Gwern ap Gwyn, a’r artist newydd sydd wedi ymgartrefu ym Machynlleth, Alys Hardy. 

Mae’r trac yn cyffwrdd yn gryf ar berthynas Lewys a Gwern sy’n ymestyn yn ôl dros y blynyddoedd.

“Mae’r trac yn adlewyrchu cyfeillgarwch cerddorol, oriau o jamio a hyd yn oed mwy o falu cachu” eglura Lewys.  

Gyda’r cyfuniad o bersonoliaeth Alys a Gwern yn gweithio’n dda, dyma chi diwns ardderchog unwaith eto gan Sywel Nyw.

 

Artist: Hap a Damwain

Rydan ni’n ffans mawr o’r grŵp arbrofol o’r gogledd, Hap a Damwain, yma yn Selar HQ felly wrth ein bodd i weld record hir newydd allan gan y ddeuawd. 

Ni Neu Nhw ydy’r albwm newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf ac sydd ar gael yn ddigidol, yn ogystal ag ar ffurf CD MiniDisc. Gallwch gael gafael ar y record ar safle Bandcamp Hap a Damwain nawr.  

Fe recordiwyd yr albwm dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghanolfan gymunedol Hen Golwyn, a hefyd gyda Gwyn ‘Maffia’ Jones, yn Stiwdio Bos ger Llanfrothen. Digwydd bod, mae Gwyn yn dad i Gwern ap Gwyn, sy’n cael mensh uchod yn ein dewis o gân Pump i’r Penwythnos y tro yma!  

Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech ac Aled Roberts. 

Aeth y ddau ati i greu cerddoriaeth gyda’i gilydd unwaith eto yn 2019 ac maen nhw wedi bod yn rhyddhau tiwns gwych ers hynny gan gynnwys y ddau EP Ynysig #1 ac Ynysig #2 yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ac yr albwm Hanner Cant a ryddhawyd ym mis Mai 2021

Dyma drydydd trac hyfryd  yr albwm, ‘Pupur a Halen’:

Record: Tara Bandito

Un o’r artistiaid a greodd argraff fawr yn 2022 oedd Tara Bandito ac mae 2023 yn addo bod yn flwyddyn yr un mor brysur i’r gantores amryddawn.  

Ar ôl rhyddhau cyfres o senglau ar ddechrau’r flwyddyn llynedd, glaniodd ei sengl ddiweddaraf ‘Croeso i Gymru’ ar ddechrau mis Ionawr eleni, gyda’r newyddion y byddai albwm yn dilyn ar ddiwedd y mis. 

Mae’r albwm hunan deitlog hwnnw allan bellach ac yn llawn o diwns bachog fydd yn swnio’n wych yn ei pherfformiadau byw lliwgar. 

Mae’r albwm yn cynnwys teyrnged gerddorol i’r band Datblygu, baledi o alar am golled ei thad, ymchwilio i’w hunaniaeth, dathlu bod yn ferch  a gobaith at Gymru newydd. 

Yn ddigidol mae’r albwm allan ar hyn o bryd, yn yr holl lefydd arferol, ond mae sôn y bydd fersiwn feinyl arbennig yn dilyn yn ystod y flwyddyn felly cadwch olwg am hwnnw! 

Bydd Tara yn lansio yr albwm mewn noson arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ar ‘Ddydd Miwsig Cymru’, 10 Chwefror, gyda llu o artistiaid eraill yn perfformio hefyd. 

Dyma fideo ardderchog y sengl ddiweddaraf, ‘Croeso i Gymru’, a ymddangosodd ar raglen Curadur, Lŵp fis Tachwedd:

 

Un Peth Arall: Agor pleidlais Gwobrau’r Selar

Rhag ofn i chi golli’r newyddion, mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar nawr ar agor.

Mae’r gwobrau cerddorol yn cael eu dyfarnu’n flynyddol ers dros ddegawd bellach, ac yn ôl yr arfer, chi, y cyhoedd a darllenwyr brwd Y Selar sy’n gyfrifol am ddewis yr enillwyr. 

Mae naw categori yn y fantol gyda’r bleidlais gyhoeddus, a bydd tîm golygyddol Y Selar yn dewis enillydd dwy wobr arall sef y ‘Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2022’.

Bydd y bleidlais ar agor nes ddydd Sul, 12 Chwefror, felly mae ganddoch chi ychydig dros wythnos ar ôl i wneud eich dewis – ewch amdani bobl. 

Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2022