Mae Ffos Goch wedi rhyddhau EP newydd sydd â naws arswydus ymhob ystyr y gair, jyst mewn pryd i Calan Gaeaf eleni.
Ffos Goch ydy prosiect diweddaraf y cerddor profiadol Stuart Estell, sy’n dod Redditch, Swydd Gaerwrangon.
Dechreuodd Ffos Goch fel prosiect ym Mehefin 2022 ond mae’r cerddor wedi bod yn hynod gynhyrchiol ers hynny gan ryddhau cyfres o senglau ynghyd â’r EP ‘Y Casio Gwerin’ a laniodd ym mis Gorffennaf eleni.
‘Pwmpenni’ ydy teitl ei EP diweddaraf wrth iddo hefyd baratoi i ryddhau albwm llawn cyntaf Ffos Goch yn y Gwanwyn.
“Fersiwn dychanol o’r gerdd ‘Eirlysiau’ gan y bardd Waldo Williams yw ‘Pwmpenni’” eglura Stuart.
Mae’r gerddoriaeth yn cropian fel sombi pydredig. Mae ‘Rhywun yn y stafell’ yn adroddiad ffeithiol o ddigwyddiadau mewn tŷ yn Rhydychen yn y 90au, pan welais ffigwr mewn lliain amdano yn fy ystafell cyn cuddio ’dan y duvet. O’n i wedi meddwi ar y pryd” cyfaddefa’r cerddor.
“Mae’r trydedd gân, ‘Pen mewn bag’ yn ddarn sy’n rhoi llais i ben Bendigeidfran wrth i’w fywyd bylu.”