Mae Lowri Evans, y gantores brofiadol i Sin Benfro, wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Pwy yw yr un?’ ar label Shimi .
Mae Lowri’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd miwsig Cymru fel artist dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio ers amser maith.
Wedi’i chefnogi gan BBC 6 Music, BBC Radio 2, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, mae hefyd wedi perfformio ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, o Ŵyl y Dyn Gwyrdd i Sesiwn Fawr Dolgellau, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel yn Llundain a hefyd wrth gwrs draw yn America.
Cafodd Lowri ei magu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac mae nifer o’i chaneuon yn ymdrin â’i milltir sgwâr. Un o’i chaneuon mwyaf adnabyddus yw ‘Merch y Myny’ sy’n trafod ei magwraeth ar lethrau Carnigli a’i pherthynas ddofn â’i hardal genedigol.
Yn yr un modd, mae Lee Mason wedi bod yn allweddol yn ei gyrfa, yn chwarae gitâr iddi ac mae hefyd yn canu harmonïau yn ei sengl newydd.
“Mae’r gân am yn sôn am gariad, yr anawsterau sydd ym mhob perthynas a’r cwestiwn mawr…odi chi gyda’r person iawn?!” meddai Lowri am ‘Pwy yw yr un?’.
Mae ‘Pwy yw yr un?’ wedi ei chyfansoddi mewn steil Americana, genre sy’n agos iawn at galon Lowri wedi iddi deithio i Nashville rhai blynyddoedd yn ôl i berfformio cyfres o gyngherddau.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn cydweithio gyda Tom McRae, yn rhyddhau’r albwm ‘Evans McRae’ yn 2021, cyn cydweithio gyda chantores arall, Sera, ar albwm cyntaf Tapestri ‘Tell Me World’, ddaeth allan fis Mawrth eleni.
Mae Lowri ar ganol recordio ei EP Cymraeg newydd a fydd yn cael ei rhyddhau yn ystod y gwanwyn yn 2024.