Pysgod aur anffodus ar EP Ffosgoch

Mae’r prosiect cerddorol amgen o Redditch, Ffos Goch, wedi rhyddhau EP cyntaf yn y Gymraeg . 

Atgofion ydy enw’r record fer newydd gan brosiect diweddaraf y cerddor profiadol Stuart Estell. 

Daeth Ffos Goch i sylw tua diwedd 2022 gan ryddhau cwpl o senglau ar ei safle Bandcamp dros yr hydref ac yna’r sengl Nadolig, ‘Dim Eira, Dim Sioe’ fis Rhagfyr

Daw’r EP yn fuan ar ôl rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Olion yr Hen Hualau’ ym mis Mawrth 2023, ond lle’r oedd honno’n yn esiampl o ochr indi-pop y prosiect, mae’r EP yn rhywbeth hollol wahanol.

Gweiddi dibwrpas a physgodyn aur

Mae dwy fersiwn o’r trac ‘Atgofion’ ar yr EP ynghyd â chân o’r enw ‘Gwylio’r Adar’.

“Ysgrifennwyd ‘Atgofion’ ar gyfer perfformiad cyntaf y prosiect, a oedd yn ddienw ar y pryd” meddai Stuart. 

“Roedd sawl dysgwr Cymraeg newydd gyda ni yn Llambed, felly’r syniad oedd ’sgwennu bach o ddeunydd lle byddai cyfle iddyn nhw ddeall rywfaint o’r geiriau hefyd – dyna pam mae’r gân yn rhestru dyddiau’r wythnos, ac ailadrodd ymadroddion syml fel ‘mynd i’r gwaith / dod nôl o’r gwaith’. 

“Ynddi hefyd, mae lot o weiddi dibwrpas, pysgodyn aur anffodus, cyn troi’n ddifrifol wrth feddwl am wacter yr hen gapel”.

Mae trydydd trac yr EP ‘Gwylio’r Adar’ yn fersiwn newydd o’r gân wreiddiol gafodd ei rhyddhau yn 2022 ac yn cynnwys Rob Haynes o’r grŵp The Membranes ar y dryms. 

Cerddor profiadol

Dechreuodd y prosiect fel rhan o benwythnos i ddathlu Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr Pont-Steffan, Mehefin 2022. Paratôdd Stuart set fer o ganeuon Datblygu a sylweddoli’n gyflym iawn nad oedd digon o ddeunydd gydag ef ar gyfer y perfformiad. Ei ateb oedd i ddechrau cyfansoddi caneuon eu hun yn y Gymraeg.  

Mae Stuart wedi ymwneud ag amrywiaeth eang o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, yn gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE. 

Er gwaethaf ei gysylltiadau Cymreig, dim ond yn 2019 y dechreuodd ddysgu’r iaith o ddifri ar ôl bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St. yn Birmingham am 18 blynedd. Mae nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i ddysgu Cymraeg Sir Benfro. Mae ei deulu yn dod o Geredigion a Sir Benfro yn wreiddiol.