Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg Y Selar allan yn y mannau arferol nawr.
Rhifyn y Gwanwyn ydy hwn a’r artist amryddawn, Tara Bandito, sy’n ymddangos ar glawr y cylchgrawn. Mae cyfweliad dadlennol gyda Tara gan Lois Gwenllian rhwng cloriau’r cylchgrawn wrth iddi ryddhau ei halbwm cyntaf yn ddiweddar.
Y band lliwgar Rogue Jones ydy prif gyfweliad arall y rhifyn yma a Tegwen Bruce-Deans fu’n holi’r ddeuawd enigmatig am eu hail albwm, ‘Dos Bebes’, a’r modd mae dod yn rhieni wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth.
Dirprwy Olygydd newydd
Ar gyfer y rhifyn diweddaraf, mae’r Selar yn croesawu Dirprwy Olygydd newydd sef Gruffudd ab Owain. Mae’r gŵr ifanc o’r Bala wedi bod yn cyfrannu adolygiadau i’r cylchgrawn ac erthyglau mwy swmpus i wefan Y Selar ers peth amser ac yn ohebydd cerddoriaeth addawol iawn.
Yn y rhifyn newydd mae Gruff wedi bod yn gyfrifol am Sgwrs Sydyn gyda Hap a Damwain a Newydd ar y Sin sy’n rhoi sylw arbennig o Ffatri Jam, Dafydd Owain a Gigs Cefn Car. Eitem ddifyr arall yn y rhifyn ydy hwnnw am lyfr ffotograffiaeth newydd Rhys Grail, gyda Rhys yn dewis ei hoff luniau o’r casgliad.
Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys crynodeb o ganlyniadau Gwobrau’r Selar ynghyd â rhestr lawn ‘10 Uchaf Albyms 2022’ yn ôl pleidleiswyr Gwobrau’r Selar. Ceir hefyd eitemau rheolaidd fel adolygiadau, Geiriau’r Gân, Trac Wrth Drac a cholofn arbennig gan Heydd Ioan o label recordiau newydd Inois.
Darllenwch y fersiwn digidol isod.
Fersiwn PDF Selar Gwanwyn_2023
Fersiwn Issuu: