Rhyddhau ail albwm Mellt

Mae Mellt wedi ryddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 27 Hydref.

‘Dim Dwywaith’ ydy enw’r record hir newydd gan y triawd o Aberystwyth, ac mae wedi’i ryddhau ar label Clwb Music. 

Dyma ail albwm Mellt gan ddilyn ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ a ryddhawyd ym mis Ebrill 2018 ar label JigCal. 

Enillodd y casgliad hwnnw wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018 yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno, gan hefyd gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018. 

Daw’r albwm ar ôl cyfres o senglau fel tameidiau i aros pryd – ‘Ceisio’, ‘Diwrnod Arall’, ‘Byth Bythol’ a ‘Marconi’ a ryddhawyd wythnos cyn dyddiad rhyddhau’r albwm. 

Mae’r albwm ar gael ar ffurf feinyl yn ogystal ag ar y llwyfannau digidol arferol, ac mae eisoes wedi derbyn adolygiad hael gan gylchgrawn amlwg Uncut. 

Bydd Mellt yn mynd ar daith fis Tachwedd i ddathlu rhyddhau’r albwm gan berfformio mewn gigs yn Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Chaernarfon. Mae tocynnau ar gyfer y gigs yma ar werth nawr. 

Dyma fideo ‘Marconi’: