Mae’r band ifanc sydd ag aelodau o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mehefin.
‘Chwdyns Blewog’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label INOIS a dyma ydy ail sengl Maes Parcio gan ddilyn ‘Sgen Ti Awydd?’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd llynedd.
Maes Parcio ydy Gwydion Outram (Gitâr a Phrif Leisydd), Twm Evans (Piano), ac Owain Siôn (Dryms).
Ers rhyddhau eu sengl gyntaf mae’r band wedi bod yn brysur yn gigio ac yn paratoi ar gyfer rhyddhau ‘Chwdyns Blewog’.
Ffurfiwyd Maes Parcio yn 2018 fel rhan o raglen ‘Marathon Roc’ Galeri Caernarfon, mae’r sengl yma’n dod o’r cyfnod cychwynnol hynny, lle bu Osian Williams (Candelas) a Branwen Williams (Siddi) helpu gyda’r ysgrifennu a’r recordio.
“Mae’r gân am y byd gwleidyddol sydd ohoni heddiw ac yn cyfeirio at y bobl sa’ ni yn considro fel ‘Chwdyns Blewog’” eglura’r drymiwr, Owain.
“Yn dilyn y seremonïau diweddar, odda’ ni’n teimlo fel ei fod yn adag iawn i ryddhau’r gân a’i rhoi hi allan i’r byd.”
Dyma ‘Chwdyns Blewog’: