Rhyddhau ail sengl Ble? 

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Ble?, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Tachwedd. 

‘Rhedeg’ ydy enw’r ail sengl gan Ble? ac mae allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol trwy’r label annibynnol newydd sbon, Label Amhenodol.  

Mae Ble? yn fand Brass-Rock o dde Cymru a ffurfiodd yn wreiddiol fel rhan o brosiect ‘Yn Cyflwyno’ Gŵyl Tafwyl 2022 ac ers hynny wedi bod yn creu tipyn o enw iddyn nhw eu hunain yn enwedig yn y sin gerddoriaeth Gymraeg yng Nghaerdydd.

Wedi’u dylanwadu gan Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains of Wayne a McFly mae eu perfformiadau yn cynnig alawon egniol a thrawiadol ar y trwmped a’r sacsoffon a theimlad grymus ac angerddol. Maen nhw wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol Cymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac ar fin rhyddhau cryn dipyn o’u traciau yn y flwyddyn nesaf. 

Soniodd Cylchgrawn Y Selar am Ble? fel band i wylio yn 2023 yn eu datganiad blwyddyn newydd eleni.

Mae ‘Rhedeg’ yn gân pop-roc gydag offeryniaeth pres y band. Ymdriniaeth ‘feel good’ at gân sy’n canolbwyntio ar ddelio â iechyd meddwl. 

Mae’n gân sy’n trafod dwy ochr y geiniog, fod rhedeg yn ffurf o fyfyrio ac o ofalgarwch, fel ffordd o ddelio â’n problemau, a hefyd yr agwedd o ‘Redeg am eich bywyd’ a bod yn feiddgar ac yn bendant gyda’n gweithredoedd, er bod hyn yn gallu bod yn ddychrynllyd ac yn wefr ar yr un pryd. Pwysleisir hyn yng ngeiriau’r gytgan…

“Ond am heddiw ti am gau y drws a gwenu – I fi

A Rhedeg am dy gyfrif di!”

Mae’r gân yn chwistrelliad 2 funud 30 eiliad o galon y bandiau ac egni eu perfformiadau byw. Maen nhw’n fand sydd wedi eu hadeiladu o gwmpas cysylltu â’r gynulleidfa ac yn gwthio i greu profiad byw egnïol a chyffrous.