Mae Bitw wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Gwener 1 Rhagfyr.
Rehearse ydy enw’r record hir sydd allan ar label Klep Dim Trep.
Mae’r albwm ar gael i’w brynu ar ffurf feinyl, CD, caset ac yn ddigidol ar safle Bandcamp Bitw.
Daw’r alwb yn dilyn rhyddhau sengl fel tamaind i aros prys ym mis Hydref, sef ‘Pretender’.
Bitw ydy prosiect unigol y cerddor Gruff ab Arwel sydd wedi bod yn aelod o sawl band yn gorffennol gan gynnwys Eitha’ Tal Ffranco ac Y Niwl.