Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei albwm unigol cyntaf ers 17 Mai.
Uwch Dros y Pysgod ydy enw record hir gyntaf y cerddor sy’n gyfarwydd cyn hyn am ei waith gyda bandiau fel Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco.
Daw’r record hir yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau o’r albwm, gan gynnwys ‘Gan Gwaith’, ‘Llongyfarchiadau Mawr’, a thrac teitl yr albwm, ‘Uwch Dros y Pysgod’ a ddewiswyd fel Trac yr Wythnos, BBC Radio Cymru.
“Dechreuais weithio ar yr albwm yn anfwriadol tua deng mlynedd yn ôl” eglura Dafydd.
“Mae gen i demo o ‘Uwch Dros y Pysgod’ ar fy nghyfrifiadur a recordiwyd ym mis Awst 2012. Ychydig a wyddwn bryd hynny, yn ystod haf chwyslyd yn 2022, y byddwn yn recordio’r gân fel y trac teitl ar gyfer fy albwm unigol cyntaf.”
Pentref dychmygol Uwch Dros y Pysgod
Wedi’i recordio rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2022 yn Stiwdio Sain yn Llandwrog a stiwdio fechan mewn ystafell wely sbâr yng Nghaerdydd, mae’r albwm yn cynnwys llu o gerddorion dawnus o’r sin gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Osian Williams (Candelas), Gethin Griffiths (Ciwb), Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis a Rio 18) a Harri Owain (Rogue Jones). Mae’r gantores opera talentog, Beca Davies, hefyd yn llefaru ar yr albwm.
Wrth lyw’r gwaith cynhyrchu oedd Llŷr Pari, cerddor a chynhyrchydd dawnus sydd wedi gweithio gydag Omaloma, Gwenno a Melin Melyn i enwi dim ond rhai. Mae Llŷr a Dafydd wedi cydweithio ar sawl prosiect dros y blynyddoedd gan gynnwys Palenco a Jen Jeniro.
“Mae’r gân ‘Uwch Dros y Pysgod’ yn sôn am bentref dychmygol o’r un enw” meddai Dafydd.
“Pentref sydd wedi’i hysbrydoli gan raglenni plant ‘stop-motion’ Cymraeg fel Joshua Jones a Sam Tân.
“Gwyliais y rhaglenni hyn yn ddeddfol fel plentyn, gan gymryd cysur o’u straeon fformiwlâig a’u naratifau naïf. Roedd popeth yn reit hunky-dory yn y bydoedd yma ond wrth gwrs, nid felly mae bywyd go iawn o reidrwydd.”
“Mae’r albwm yn ei gyfanrwydd wedi ei selio ym mhentref dychmygol Uwch Dros y Pysgod ac mae profiadau bywyd yn cael eu datgelu drwy bersbectif trigolion dychmygol y pentref.”
Roedd lansiad swyddogol yr albwm yn y Galeri, Caernarfon nos Wener diwethaf, 19 Mai, gyda Mared yn cefnogi Dafydd ar y noson. Bydd gig lansio arall ganddo yn Theatr Chapter, Caerdydd ar 8 Mehefin gyda chefnogaeth gan Ffenest.