Mae’r band o Gaerdydd, Hyll, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf er dydd Gwener diwethaf 28 Gorffennaf.
Sŵn o’r Stafell Arall ydy enw’r record hir sydd allan ar label Recordiau JigCal.
Ers ffurfio yn 2016, mae Hyll wedi ennill calonnau nifer iawn o Gymry gyda’u caneuon unigryw a’u geiriau ffraeth am gymeriadau eu dinas genedigol, Caerdydd.
“Mae’n deg i ddweud bod amser yn themâu cryf i’r straeon sy’n cael eu hadrodd ar yr albwm, y limbo dryslyd rhwng eich arddegau a thyfu lan i fod yn oedolyn” meddai’r band.
Wedi iddynt arbrofi gyda synau gwahanol ar eu EP Mymryn a ryddhawyd yn 2021, mae’r pedwarawd yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau indie ar yr albwm, ac yn dilyn sŵn tebyg i’w senglau diweddar ‘Hanner Marathon’ a ‘Mike’.
Yn gasgliad o ddeg trac, mae’r albwm yn amlygu dylanwadau cerddorol y band sy’n cynnwys Nick Cave, Dinosaur Jr, Pavement, Soccer Mommy a’r Pixies yn ogystal â’r awduron Walt Whitman a Virginia Woolf.
Er mwyn dathlu diwenod rhyddhau ‘Sŵn o’r Stafell Arall’ ar 28 Gorffennaf, roedd cyfle i weld Hyll yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ar yr un noson honno, lleoliad sy’n agos iawn i galonnau aelodau’r band.
Bydd cyfle hefyd i weld Iwan, Owain, Jac a Gruff yn perfformio yng ngŵyl The Green Man (Rising Stage) ar 20 Awst.
Dyma ‘Bore Dydd Gwener’ o’r albwm: