Mae’r grŵp indie-psych-roc o Ogledd Cymru, Kim Hon, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf hunan-deitledig a hir-ddisgwyliedig ers dydd Gwener diwethaf, 10 Tachwedd.
Label Recordiau Côsh Records sy’n gyfrifol am ryddhau’r casgliad deg trac sy’n cynnwys rhai o’r caneuon cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi bod i gigs egnïol Kim Hon.
Mae’r albwm newydd yn adeiladu ar sain seicedelig nodedig Kim Hon, gyda geiriau meddylgar yn cael eu cyflwyno trwy alawon heintus.
Mae’n cyfleu esblygiad amlwg y band wrth iddynt barhau i wthio ffiniau.
Daw’r casgliad ar ôl i Kim Hon ymddangos ar raglen ‘Paranormal’ gyda Sian Eleri ar BBC Three yn ddiweddar, yn ogystal â’r anrhydedd bod y dafarn leol, Ty’n Llan, wedi enwi cwrw ar ôl y band. Fe wnaethon nhw fanteisio’n llawn ar sesiwn flasu ym mragdy meicro’r ‘Bragdy Hopus’ trwy ei gyplu hefyd gyda sesiwn tynnu lluniau ar gyfer yr albwm.
Tra bod sioeau byw Kim Hon eisoes wedi ennill clod am eu hegni heintus, mae caneuon fel ‘Gloyn Byw’ yn arddangos dawn y grŵp o ysgrifennu melodïau pop bachog, sy’n adrodd straeon unigryw.
Wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, mae albwm newydd Kim Hon yn eu gosod fel un o berfformwyr mwyaf cyffrous y sin gerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.
Traciau albwm Kim Hon
- Baseball
- Interstellar Helen Keller
- Pry yn y Gwynt
- Gloyn Byw
- Mr English
- Milkshake
- I’r Gogledd
- Pam U Actin like a Mochyn?
- Haia ti Wech?
- Baba Ghanoush
Y newyddion da pellach y gallwn ni ddatgelu i chi ydy bod trac ecsgliwsif gan Kim Hon yn mynd i fod ar Record Selar2, sef y record feinyl arbennig ar gyfer aelodau Clwb Selar, Gitarydd Blaen neu uwch. Cadwch olwg am y record yn fuan yn y flwyddyn newydd, ac yn y cyfamser, ymaelodwch â Chlwb Selar nawr!
Dyma’r fideo ar gyfer ail drac yr albwm, ‘Interstellar Helen Keller’: