Mae albwm newydd Glain Rhys allan nawr ar label recordiau I KA CHING.
‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy enw record hir ddiweddaraf y gantores o ardal Y Bala ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Mai.
‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy ail albwm Glain wedi iddi ryddhau ‘Atgof Prin’ yn 2018 ar label Recordiau Sain.
Ers hynny, mae wedi mwynhau cyfnod llewyrchus yn y byd perfformio wedi iddi serennu yn y sioe gerdd ‘Phantom of the Opera’ yng ngwlad Groeg eleni. A thrwy brofiadau newydd fe ddaw chwant cerddorol newydd ac mae hynny’n wir hefyd am albwm newydd Glain wrth iddi blethu alawon gwerinol ei naws gyda chyfeiliant mwy electronig.
Gan nodi Billie Eilish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers fel dylanwadau cerddorol ar gyfer yr albwm newydd, roedd cyfle i brofi trywydd cerddorol newydd Glain wedi iddi ryddhau pum sengl ddirdynnol dros y ddeunaw mis diwethaf, sef ‘Plu’r Gweunydd’, ‘Swedish Tradition’, ‘Sara’, ‘Eira Flwyddyn Nesa’ a hefyd ei sengl ddiweddara’ ‘Hed Wylan Deg’, a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth ac a oedd yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar.
Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad ei chaneuon wrth iddo “ddod a gweledigaeth cyfnod clo yn fyw”.
Mae ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol ac fel copïau caled yn eich siopau cerddoriaeth leol.
Dyddiadau Gigs Glain Rhys Live Dates
03/05/23 – Gŵyl Triban, Llanymddyfri
10/06/23 – Awen Meirion, Bala
19/08/23 – Gŵyl Oakley Fest, Maentwrog