Mae H. Hawkline, sef prosiect cerddorol Huw Evans, wedi rhyddhau albwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 10 Mawrth.
Milk For Flowers ydy enw’r albwm, a dyma ydy pumed record hir H. Hawkline.
Dyma hefyd ei record mwyaf personnol a chonfensiynol hefyd yn ôl ei label, Heavenly Recordings.
Mae’r record wedi’i gynhyrchu gan, ac yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan Cate Le Bon ac mae’r gwaith celf gan H.Hawkline, ei hun.